Penfro - Taith y Normaniaid
Ewch n么l mewn hanes i gyfnod y Normaniaid gyda thaith o gwmpas Penfro, gan ymweld 芒 Llyn y Felin, y castell a waliau'r dref.
Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr ar y gwastad ac ar balmentydd neu lwybrau. Mae allt yn Nheras yr Eglwys yn eithaf serth. Hefyd, mae'r darn wrth droi fyny am y Feidr Gwyddau gyda chefnen serth, felly cymerwch eich amser.
Argraffwch bamffled arbennig i gael cyfarwyddiadau manwl o daith y Normaniaid.
-
1. Llyn y Felin
Dyma safle Porth y Gogledd ar un adeg, ar waelod Feidr Dywyll, yn arwain i fyny i'r dref ei hun
-
2. Ogof Wogan
Mae'r castell yn dyddio o'r blynyddoedd ar 么l sefydlu Iarllaeth Penfro ym 1138
-
3. Priordy Cil-maen
Arferai Eglwys Priordy San Niclas a Sant Ioan fod yn rhan o Briordy Cil-maen, a gyflwynwyd i Abaty Seez yn Normandi ym 1098
-
4. Y Castell
Edrychwch ar Gastell Penfro - ac yn wir, Penfro ei hun - a'r T诺r Crwn, a adeiladwyd gan Iarll William Marshall tua 1200
-
5. Main Street
Mae eglwys blwyf y Forwyn Fair yn dyddio'n wreiddiol o'r 12fed ganrif
-
6. Muriau'r dref
Syllwch draw dros y rhan o Benfro a adnabyddir fel y Dref Oren
-
7. Porth y Dwyrain
Mae Ward y Dwyrain yn rhan fwy newydd o'r dref ac ardal a ddinistriwyd gan y Pla Du yn ystod y blynyddoedd ar 么l 1349
-
8. Yn 么l i Lyn y Felin
Mae T诺r Barnard yn un o blith nifer o dyrrau amddiffynnol sydd wedi'u lleoli o amgylch y waliau mewn safleoedd strategol
Awgrymir eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y wefan hon gan gadw at y ffyrdd a nodir yn unig. Dylid cerdded y teithiau mewn cwmni ac yng ngolau dydd, gan wisgo esgidiau addas. Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am iechyd a diogelwch y rhai sy'n ymgymryd 芒'r teithiau hyn.