成人论坛

Ffynnon Gwenffrewi

top

Bu pobl yn ymdrochi yn Ffynnon Santes Gwenffrewi, Lourdes Cymru, am dros 1,000 o flynyddoedd. Mae pererinion yn ymweld 芒'r Gysegrfan gydol y flwyddyn. Dyma'r unig fan ym Mhrydain gyda hanes di-dor o bererindota cyhoeddus ers tair canrif ar ddeg.

Y Bwrlwm Cyntaf

Ffynnon Gwenffrewi
Ffynnon Gwenffrewi

Yn 么l y chwedl, byrlymodd Ffynnon Gwenffrewi gyntaf yn y man lle torrodd Caradog, a oedd yn ceisio ei threisio, ben Gwenffrewi i ffwrdd gyda'i gleddyf.

Cafodd ei chodi o'r farw'n fyw trwy wedd茂au ei hewythr Sant Beuno, a bu'n byw fel lleian tan ei hail farwolaeth tua 22 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

A yw hynny'n wir ai peidio, nid chwedl oedd Gwenffrewi, roedd yn berson o gig a gwaed. Mae'n rhaid ei bod yn ddynes go ungryw gan ei bod wedi ei mawrygu fel santes byth ers ei marwolaeth.

Ceir cofnodion ers y ddeuddegfed ganrif o iachau ar 么l ymdrochi yn y Ffynnon ac mae'n parhau hyd heddiw.

Olion y Pererinion

Ffynn y Pererinion
Ffynn y Pererinion

Mae casgliad da yn y Gysegrfan o faglau pren wedi'u taflu gan bobl a gafodd eu hiachau yn y gorffennol.

Mae adeilad y presennol Cysegrfan yn un ysblennydd deulawr Unionsyth Gothig Diweddar a adeiladwyd ym mlynyddoedd cyntaf y 16eg ganrif ac nid oes mo'i debyg yn y byd.

Mae'n adeilad Rhestredig Gradd I yn ogystal 芒 bod yn Henebyn Rhestredig. Ar safle'r Ffynnon mae Arddangosfa Ddehongliadol yn manylu ar hanes y santes a'i chysegrfan a cheir amgueddfa yng nghyn d欧 Fictorianaidd y gofalwr yn dangos hanes pererindota.

Un o'r Saith Rhyfeddod

Y mae'r baddon yn anweddus o agored ac yr oedd gwraig yn ymdrochi tra'r oeddem ni yn edrych arni...

Dr Johnson ar ymweliad

Mae llwybr ar gael hefyd i alluogi ymwelwyr i arwain eu hunain o amgylch y Gysegrfan.

Mae'r ffynnon yn dal yn brif gyrchfan pererindodau Catholig, ond mae croeso wrth y Ffynnon i ymwelwyr o bob ffydd, neu heb ffydd o gwbl, i rannu'i chymysgedd unigryw o hanes, harddwch a thawelwch.

Un ymwelydd enwog nad oedd yn hoff o'r arferiad bod pawb, merched a dynion, yn ymdrochi gyda'i gilydd oedd yr enwog Dr Johnson wnaeth roi ei farn yn blwmp ac yn blaen.

Mae'r fan sanctaidd hynafol hon yn cael ei chydnabod fel un o Saith Rhyfeddod Cymru.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.