Datblygiad Bae Colwyn: Effaith yr Ail Ryfel Byd
topEunice Roberts yn s么n am yr effaith a gafodd y rhyfel ar dref Bae Colwyn.
Er ei fod yn beth rhyfedd i'w ddweud, mewn sawl ffordd ffynnu wnaeth Bae Colwyn yn ystod yr ail ryfel byd.
Yn Medi 1939 y dechreuodd y faciw卯s o Lerpwl gyrraedd. Wedyn ym Mehefin 1940 daeth yr adran o'r llywodraeth oedd yn gyfrifol am yr holl system dogni bwyd i'r dref. Roedd 5,000 o staff yn gyfrifol am y gwaith ac fe'i symudwyd i Fae Colwyn. Bu iddynt gymeryd drosodd Gwesty Bae Colwyn, Ysgol Rydal, Coleg Penrhos (symudwyd yr ysgol i D欧 Chatsworth), a 35 gwesty arall yn cynnwys St. Enoch's, Plas-y-Coed, Gwesty'r Frenhines yn Hen Golwyn a Gwesty Pwllycrochan.
Agorwyd allotments ym Mharc Eirias ac fe dynnwyd railings Eglwys Sant Paul a'u rhoi at waith y rhyfel. Cryfhawyd copa Bryn Euryn yn 1940 gyda'r RAF yn meddiannu'r poncyn fel un o'r safleoedd radar cynharaf. Defnyddiwyd garej Lookers, neu Slaters bellach, i roi miloedd o jeeps gyda'i gilydd - ac fe'i gwelwyd o gwmpas y dref ym mhob man yn disgwyl cael eu hanfon allan.
Yn ystod y rhyfel bu gofyn i bobl gefnogi "Buy a Spitfire", "War Weapons Week", "Warship Week", "Wings for Victory" a "Salute a Soldier" yn ariannol ac erbyn diwedd y rhyfel roedd swm anferth o arian wedi ei fuddsoddi mewn cynilion cenedlaethol gan drigolion parhaol a dros dro y dref.
Yn ei anterth roedd Ffordd yr Orsaf yn cael ei disgrifio fel Mecca i siopwyr Gogledd Cymru oedd yn edrych am ansawdd a gwychder. Adeiladwyd y rhes o naw o siopau mewn bricsen goch, ar y chwith o dop y stryd, yn 1892 ac mae canopi Fictorianaidd gwreiddiol W.H. Smith yn dal i gynnwys gwydr lliw yn dangos Shakespeare, Dickens, Chaucer a Dante.
Yn ystod y 60au hon gafodd ei gwneud yn stryd unffordd gyntaf y dref a diweddu yr olygfa gyfarwydd o weld plismon ar "point duty" ym mhen y stryd i ganiatau i draffig ddod i mewn ac allan.
Agorwyd Ysgol Gymraeg Bod Alaw ar Fawrth 1af, 1950 yn Rhodfa Riviere yng nghyn gartref arweinydd cerddorfa pafiliwn y pier pan yr agorodd ddechrau'r ganrif sef Jules Riviere. Erbyn 1972 roedd yr ysgol angen adeilad mwy ac fe symudwyd i'r lleoliad presennol. Lleoliad y coleg technegol a dyfodd i fod yn Goleg Llandrillo Cymru oedd y lleoliad newydd yma ar Barbery Hill yn wreiddiol.
Rhwng 1939 a 1959 fe aeth y nifer o westai yn y dref i lawr o 58 i 17 a'r nifer o fflatiau a thai llety i lawr o 365 i 197.
Nodir yn llyfr Geoffrey Edwards, cyn glerc y dref, bod dibyniaeth y dref ar y diwydiant gwyliau yn unig ar ben. Erbyn 1957 dechreuwyd cydnabod bod angen newid natur yr ardal o gylchfan gwyliau traddodiadol yn unig ac fe ddatblygwyd cynlluniau ar gyfer stad ddiwydiant ysgafn ym Mochdre. Yn fuan iawn roedd yno ddeg diwydiant ysgafn yn cyflogi 450 o bobl, yn cynnwys J. K. Smit a symudodd o Rhodfa'r Tywysog.
Dim ond blas byr o hanes tyfiant Bae Colwyn i'r dref yr ydym yn ei adnabod a mwynhau byw ynddi yw hwn. Os hoffech ddarllen mwy mae Casgliad Hanes Lleol yn Llyfrgell Bae Colwyn.
Eunice Roberts
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.