Y Bala ac Ardal Penllyn
topTaith hanesyddol o amgylch Pum Plwy Penllyn, ardal Michael D Jones a phapur bro Pethe Penllyn gydag Iwan Bryn Williams o'r Bala.
Y pum plwy ym Mhenllyn yw Llanuwchllyn, Llangywer, Llanycil, Llanfor a Llandderfel.
Dyma ardal lle mae pob "-au" ar ddiwedd gair yn cael ei ynganu yn "-e". Felly Pethe = Pethau! Llwyd o'r Bryn, erstalwm, ddaeth a'r ddeuair "y Pethe" i sylw gwlad fel teitl i'w lyfr cyntaf.
Bron yn siwr mai y pethau gorau ym myd diwylliant, barddoniaeth, cerddoriaeth, crefydd, hwsmonaeth ac ati oedd ganddo fo. "Ydy o yn y Pethe?" holai am newydd ddyfodiad, hynny yw, a fyddai ganddo ddiddordeb yn y pethau oedd yn cyfri i fwyafrif pobl yr ardal?
Y 'Domen'
Tref y Bala yw canol Penllyn, a phentrefi neu ardaloedd yn dwyn yr enwau canlynol o gwmpas mewn cylch dim mwy na wyth milltir o'r dref: Cynllwyd, Llanuwchllyn, Parc, Llangywer, Rhosygwalia, Cwmtirmynach, Frongoch, Rhyducha (Talybont), Llidiardau, Llanfor, Sarnau ,Cefnddwysarn, Bethel, Glanrafon (Llawrybetws) a Llandderfel.
Mae'r Bala wedi digwydd cael personoliaethau pwysig yn byw yma yn y gorffennol. Daeth cymeriad o'r enw Edmund Meyricke o Gaerfyrddin i'r dref yn 1723 a sefydlu Ysgol Ramadeg a elwid yn Ysgol T欧 Tan Domen. (Castell oedd y Domen!)
Un arall a ddaeth o Sir Gaerfyrddin oedd Thomas Charles. Eglwyswr wedi dod dan ddylanwad y Methodistiaid cynnar oedd o, a sefydlodd Ysgolion Sul a chanfod yr angen am Feiblau. Bu'n ysgrifennu pethau ei hun ac er mwyn eu cyhoeddi denodd Wasg yma o Lundain.
Wedyn sefydlu Coleg (uchod) i addysgu rhai ar gyfer y Weinidogaeth. Un o'r rhai fynychodd y coleg hwn oedd OM Edwards o Lanuwchllyn gerllaw, g诺r a alwyd yn "Waredwr mawr y Gymraeg" yn ei ddydd.
Gan fod y Methodistiaid 芒 Choleg yma, dyma Michael D. Jones yn mynd ati i sefydlu Coleg i Annibynwyr hefyd yn y dref. Magodd yr holl addysg a'r anghydffurfiaeth yma, radicaliaeth cryf yn y werin gan esgor, yn ei dro, ar gymeriadau fel Tom Ellis, yr aelod seneddol cyntaf o safle mor isel mewn cymdeithas - mab i denant ar fferm un o'r Stadau mawr.
Fo sicrhaodd lawer iawn o bethau da i Gymru yn ystod ei oes fer. Rhwng yr ysgol, y colegau a'r Wasg yr oedd y Bala yn niwedd y 19eg ganrif , yn 么l rhai, mor bwysig yng ngogledd Cymru ag oedd Merthyr Tydfil yn y De, a rhyngddynt gellid mynd i un o'r naill le i wybod faint o'r gloch oedd hi ar bethau yng Nghymru.
Yn ein dyddiau mwy hamddenol ni, mae Glanllyn yn ganolfan wyliau gan yr Urdd, daw arbenigwyr ar chwaraeon d诺r yma o bob rhan o'r byd i gystadlu 芒'i gilydd, heb s么n am gampau cwn defaid byd eang. Ac wrth gwrs yma yn 1997 y cafwyd un o Eisteddfodau Cenedlaethol mwyaf cofiadwy'r blynyddoedd diwethaf.
Iwan Bryn Williams
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.