Hanes Dyffryn Conwy
topParhad o daith hanesyddol drwy Ddyffryn Conwy gan Gareth Pritchard.
Pa bont i groesi'r afon?
Yna, fe awn i lawr yr afon i gyffordd Llandudno. Dyfodiad y rheilffordd fu'n bennaf gyfrifol am ei datblygiad. Adeg yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd ffatri i gynhyrchu rhannau awyrennau rhyfel yma. Yn ddiweddarach, trowyd y lle yn ffatri peiriannau golchi Hotpoint. Ond erbyn hyn, mae'r cyfan wedi diflannu. Diffeithwch yw'r safle bellach.
I lawr wrth yr afon mae rhywbeth o bwys wedi digwydd. Pan adeiladwyd y twnnel newydd o dan Afon Conwy, symudwyd y pridd yn uwch i fyny'r afon a chreu gwarchodfa natur, sy'n datblygu i fod yn fan o bwys.
Fe groeswn y bont i Gonwy, ac mae gennym ddewis o dair - Pont grog a adeiladwyd gan Thomas Telford yn 1836, Pont y Rheilffordd a godwyd gan Robert Stephenson yn 1846, a'r bont a godwyd ym 1958.
Yng Nghonwy, wrth gwrs, mae'n amhosibl i chwi beidio 芒 gweld y castell a godwyd gan Edward 1af a muriau'r hen dref sy'n dal i sefyll yn gadarn. Adeg y Pasg, 1401, llwyddodd cefnogwyr Owain Glyndwr i feddiannu'r castell, ond byr fu eu harhosiad.
Mae Plas Mawr a godwyd gan deulu'r Wynniaid, ac sydd yng ngofal CADW yn werth ymweld ag ef. Gwyliwch hefyd am ysbryd y ferch ifanc! Honnir bod T欧 Aberconwy, a fu ar un amser yn dafarn, yn dyddio'n 么l i'r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Maelgwn Gwynedd
Ar draws Afon Conwy mae Deganwy, a draw ar fryniau'r Fardre, roedd safle Castell Maelgwn Gwynedd. Tipyn o gymeriad oedd hwn. Dywedir iddo gynnal eisteddfod rhwng y beirdd a'r telynorion, a bu'n rhaid i bob cystadleuydd, yn gyntaf, nofio ar draws yr afon. Wrth gwrs, doedd hi ddim yn bosib chwarae yr un delyn wedyn! Cafodd ddiwedd go erchyll ar 么l dianc i Eglwys Llanrhos rhag y fad felen. Aeth ei gywreinrwydd yn drech nag ef. Daeth ei ddiwedd wedi iddo sbecian drwy dwll y clo!
Ymlaen i Landudno, brenhines y trefi gwyliau! Mae'n amser cyffrous ar y Gogarth Fawr, oherwydd fe brofwyd bod cloddio am gopr yn dyddio'n 么l i'r Oes Efydd ac mae'n werth ymweld 芒'r mwynfeydd. Gallwch deithio i fyny ar dram neu ar y car codi.
Ar draws y bae, mae'r Gogarth Fach a Chreigiau Rhiwledyn. Honnir mai mewn ogof yma, yn anghyfreithlon, yr argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf tua 1486 - 'Y Drych Cristnogawl'.
Teithiwn i'r gorllewin i Lanfairfechan, ble mae Traeth Lafan sy'n edrych dros y Fenai i Ynys M么n. Yn Aber gerllaw, roedd llys Llywelyn Fawr, a chludwyd corff Siwan oddi yno i Benmon i'w gladdu. Yn ystod y blynyddoedd diweddar cafodd nifer o bobl fywoliaeth yn Ysbyty Bryn y neuadd, fu'n arbenigo ar drin pobl ag anhwylder meddwl. Codwyd yr ysbyty ar safle hen blasty a ehangwyd gan John Platt.
Y chwareli ithfaen fu'n gyfrifol am ddatblygiad Penmaenmawr, er mae olion bod pobl yn byw yma yn Oes y Cerrig wedi eu darganfod ar y Graig Lwyd uwchben y dref. Bu bri hefyd ar y dref fel lle gwyliau glan y m么r. Un fu'n rhannol gyfrifol am hyn oedd y gwleidydd William Gladstone, oedd wrth ei fodd yn ymweld, hyd yn oed pan oedd yn brif weinidog!
Mochdre a Cholwyn
Mae Mochdre ar gyrion gorllewinol Bae Colwyn. Dywedir i'r lle gael ei enwi ar 么l i Gwydion ddod 芒'i foch yma o Ddyfed. Yn amser Rhyfel y Degwm, tua 1887, bu un o'r brwydrau mwyaf ffyrnig yn Fferm y Mynydd. Roedd rhyw 150 o blismyn yn mynd 芒'r ffermwyr i'r ddalfa, ond ymosodwyd arnynt hwythau gan ddynion lleol a bu'n dipyn o sgarmes.
Uwchben Llandrillo-yn-rhos, ar Fryn Euryn fe gododd Ednyfed Fychan blasty yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg. Ef oedd distain Gwynedd, a phrif weinidog Llywelyn Fawr.
Hen air Cymraeg am gi ifanc yw 'Colwyn'. Roedd gorsaf reilffordd yma yn 1849, ac fe godwyd pier cyntaf yn 1899, gydag Adelina Patti, y gantores enwog, yn yr agoriad swyddogol.
Penderfynwyd codi tram i redeg o Fae Colwyn i Landudno ac fe agorwyd hwnnw yn 1907. Yn anffodus bu'n rhaid ei gau rhyw hanner canrif yn ddiweddarach.
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.