Hanes Y Felinheli
topO Aberpwll i ledled y byd, dyma ychydig am hanes y Felinheli gan Len Williams o'r pentref.
Mae 'na sawl enw wedi bod ar y pentref dros y blynyddoedd. Dechreuodd fel Aberpwll - wedyn y Felinheli, sy'n gysylltiedig efo'r felin a oedd wrth geg afon Heulyn sy'n mynd i'r m么r ger y pentref.
Wedyn, yn sg卯l y chwarel lechi, newidiwyd yr enw gan Lord Assheton-Smith i Port Dinorwig gan mai porthladd i chwarel Dinorwig oedd o. Ar 么l i'r chwarel gau yng nghanol y 1870au, newidiwyd yr enw yn 么l i'r Felinheli gan y cyngor plwy.
Roedd y Felinheli yn borthladd prysur iawn yn y 19eg ganrif. Dwi'n cofio darllen bod dros 400 o longau wedi gadael y porthladd yn ystod un flwyddyn brysur, yn mynd 芒 nwyddau ledled y byd - Awstralia, America, Ffrainc, yr Alban.
Mi ddaru'r pentref newid ar 么l i'r porthladd gau gan ei fod yn rhoi gwaith i gymaint o bobl. Mi ddaeth yna rai diwydiannau gwahanol i mewn, fel Roberts and Sons, y cwmni cig sy'n dal i fodoli yn ochrau Caernarfon, ond doedd o ddim yr un fath.
Mae'r Felinheli ychydig yn wahanol i bentrefi eraill gan fod ganddo Neuadd Goffa a Chloc Coffa - y ddau yn dyddio o 1926 gan fod un garfan eisiau cloc ac un arall eisiau neuadd i gofio'r rhyfel, felly cafwyd y ddau!
Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes y pentref ac rwyf wedi cyhoeddi tri llyfr o hen luniau o'r ardal. Mae'r rhan fwyaf wedi eu gwerthu erbyn hyn ond mae 'na wastad gop茂au ar gael yn y llyfrgell neu yn archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon.
Dechreuodd fy niddordeb pan wnes i roi'r gair allan fy mod yn chwilio am hen luniau o'r ardal ar gyfer arddangosfa ac mi ges i dros 600 - mae'n syndod o ble daethant i gyd! Daeth un ddynes gyda llun mewn ffr芒m dan ei braich - tystysgrif o eisteddfod Caernarfon yn 1935 oedd o, pan enillodd y Girl Guides lleol y wobr gyntaf am ddawns werin! Pethau fel 'na sy'n troi i fyny, pethau gwerthfawr iawn i'r gymuned.
Mae cael arddangosfeydd o'r lluniau yma yn rhoi pleser i bobl, yn enwedig hen bobl - mae'n rhoi hwb iddynt.
Len Williams
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.