Hanes Ardal yr Wyddfa
topParhad o daith o amgylch ardal yr Wyddfa.
Pobl sy'n gwneud cymdeithas - nid ei harddwch hi na'i hagrwch hi chwaith. O'r diwydiant gerwin hwn y tyfodd cymdeithas gyfoethog, llawn hiwmor, grefyddol ac yn ddiweddarach, sosialaidd Gymraeg.
Disgrifiwyd y chwarelwr unwaith fel y gweithiwr mwyaf diwylliedig yn y byd! Hawdd credu hynny gan i nifer fawr adael y chwarel ar 么l cael dau ben llinyn ynghyd i fynd i golegau i astudio addysg, diwinyddiaeth a busnes.
Daeth beirdd a llenorion a fagwyd yn y fro i'r amlwg yn genedlaethol - o Ddafydd Ddu Eryri ac Abraham Williams i'r Athro WJ Gruffydd, T Rowland Hughes a Dilys Cadwaladr. Erbyn hyn mae enwau Selwyn Goth, Dafydd John Pritchard, Eurig Wyn, John E Williams, Angharad Price ac Eurgain Haf yn flaenllaw yn y maes yn ogystal 芒'r awdures blant boblogaidd Emily Huws.
Daeth cerddoriaeth yn rhan annatod o ddiwylliant y chwarel hefyd. Sefydlwyd sawl c么r yn y chwarel a'r rheiny yn gystadleuol iawn. Daeth eisteddfod y chwarel yn achlysur pwysig ar galendr y chwarelwr. Yn sicr bu'r cyfan oll yn symbyliad i sefydlu cymdeithasau corawl, cerddorfeydd a bandiau yn y fro. Anodd credu erbyn hyn fod cerddorfa yng Nghwm y Glo a Bethel yn nechrau'r ganrif ddiwethaf, a bod Cymdeithas Gorawl Llanberis a'r Cylch ym mhumdegau'r un ganrif dan arweinyddiaeth dau chwarelwr, Charles Owen a'i fab Aled, yn ymgodymu yn llwyddiannus iawn a cherddoriaeth y cewri.
Sefydlwyd nifer fawr o gorau plant, merched, meibion a chymysg yn y fro ac mae bandiau pres Llanrug a Deiniolen yn dal i gystadlu ar raddfa genedlaethol. Magwyd sawl cerddor ac unawdydd proffesiynol yma fel Annette Bryn Parri, Si芒n Wyn Gibson, Rhian Owen a Tim Ward ynghyd 芒 nifer o grwpiau modern yn amrywio o Hogia'r Wyddfa, Genod T欧'r Ysgol a Dylan (Dylan a Neil) i Gogs, Caban, Something Personal, Epitaff a Big Leaves.
Cyfranodd y fro yn helaeth iawn i fyd y ddrama yng Nghymru gyda chwmni drama yn bodoli ym mhob pentref bron. Cynnyrch y fro oedd Wilbert Lloyd Roberts a Gwenlyn Parry hefyd. Yma y magwyd sawl actor ac actores enwog fel Maureen Rhys, Eilian Wyn, Rhian Cadwaladr a Tami Gwyn.
Y dyfodol
Ond beth am y dyfodol? Fel sawl bro arall yng Nghymru mae bro Eco'r Wyddfa wedi dioddef dirwasgiad. Bu cau Chwarel Dinorwig yn ergyd fawr i economi'r fro. Yn sicr, bu'n gyfrwng i weld nifer o deuluoedd yn ymfudo i ardaloedd yn Lloegr, America ac Awstralia i chwilio am waith. Mae'r ymfudo wedi parhau er i'r Bwrdd Trydan Cenedlaethol, Twristiaeth, Ferodo, Greengate, DMM, Euro DPC, Cyngor Sir Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, y ddau dr锚n bach, Padarn a'r Wyddfa, y ddwy Antur holl bwysig ar gyfer pobl dan anfantais meddyliol - Antur Waunfawr ac Antur Fachwen, Barcud, Cwmn茂au Teledu Annibynnol a nifer o fan ddiwydiannau eraill, ddod i'r adwy i geisio atal y llif.
Fel cload i'w gerdd "Chwarel Dinorwig" fe ddywed Rol Williams hyn:
Cofadail i'r hogia wyt bellach 'rhen law
Yn byw ar drugaredd y corwynt a'r glaw;
Ond paid digalonni, pwy 诺yr -yr un pryd
Nad oes mewn anwybod rhyw obaith o hyd?
Dim ond gobeithio'n wir.
Arwel Jones
Cerdded
Conwy
Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.
Diwydiant
Creithiau'r llechi
Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.