Castell Penfro
04 Mawrth 2009
Er ei bod yn agos at y m么r, mae safle castell Penfro'n drawiadol. Saif ar ddrum o galchfaen a fuasai'n weddol hawdd i'w hamddiffyn. Dan y graig mae ogof anferth y Wogan, trigfan pobl Oes y Cerrig, a chafwyd hyd i ddarnau o arian Rhufeinig o gwmpas y safle, sy'n dangos iddo fod yn gyfannedd ers canrifoedd.
Bu Dyfed heb ymosodiadau Normanaidd o ddifrif cyn i'r brenin Rhys ap Tewdwr gael ei ladd yn 1093; wedyn daeth y Normaniaid yn eu lluoedd, a chodwyd y castell pridd a choed cyntaf gan Roger o Montgomery a'i fab Arnulf. Yn 1102 gwrthryfelodd Arnulf yn erbyn Harri II, a gorfu iddo ffoi i Iwerddon. Cymrodd y brenin feddiant o'r castell a'i roi i ofal Gerald o Windsor. Sefydlwyd bwrdeistref, a gwahoddwyd nifer sylweddol o fewnfudwyr o Fflandrys i'r fro.
Wedi Gerald, rhoddwyd y castell i ofal Gilbert de Clare, iarll cyntaf Penfro. Ei fab Richard, a elwir Strongbow, lansiodd oresgyniad de Iwerddon. Pan fu Strongbow farw yn 1176, rhoddwyd ei ferch ac etifeddes Isabel yn 17 oed i William Marshall, 48 oed, ynghyd 芒 chastell Penfro. Roedd Marshall wedi codi o wreiddiau cyffredin i fod yn brif farchog y deyrnas, a chafodd yntau iarllaeth Penfro o'r newydd.
William Marshall a'i pump mab oedd yn bennaf cyfrifol am lunio castell Penfro, gan gychwyn gyda'r gorthwr anferth. Bygythwyd Penfro gan Llywelyn ap Iorwerth yn 1220, ond derbyniodd can punt oddi wrth bobl y bwrdeistref i fynd i ffwrdd! Wedi hynny ni ddaeth rhyfel yn agos hyd 1405 pan laniodd byddin o Ffrancwyr yn y fro i gynorthwyo Glynd诺r, ond aeth y bygythiad yna heibio.
Yr unig dro i gastell Penfro ddioddef gwarchae oedd yn 1648. Roedd milwyr lleol a fu'n cefnogi'r Senedd yn y Rhyfel Cartref heb eu talu, a chodasant wrthryfel. Bu'n rhaid i Oliver Cromwell ei hun ddod 芒 byddin trwy dde Cymru, a pharhaodd y gwarchae am ddau fis cyn i'r garswn ildio. Gorchmynnodd Cromwell i'r tyrau gael eu dinistrio, a gwnaethpwyd llawer o ddrwg.
Wedi hynny daeth canrifoedd o ddirywiad, a rhai o artistiaid mwyaf y wlad megis Wilson, Turner a Sandby i ddarlunio'r adfeilion mawreddog. Bu trwsio yno o 1880 ymlaen gan J.R. Cobb, hynafiaethydd cyfoethog, ond daeth llawer mwy o welliant dan berchnogaeth yr Uwchfrigadydd Syr Ifor Philipps o Picton, o 1928 ymlaen. Bellach mae'r castell yn eiddo ymddiriedolaeth annibynnol.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.