Llifogydd Tywyn
Ddiwedd Chwefror 1990, cododd storm ofnadwy ar arfordir gogledd Cymru. Chwipiwyd tonnau'r m么r gan y gwyntoedd cryfion nes torri bwlch o 600 metr yn y morglawdd yn Nhywyn ger Abergele. Dyma oedd 'storm y ganrif'.
Roedd y digwyddiad yn gyfuniad peryglus o lanwau uchel a thywydd eithafol wnaeth ddryllio amddiffynfeydd y m么r. Dechreuodd yr helynt ar Ddydd Llun, 26 o Chwefror 1990 er bod yna lifogydd wedi digwydd bythefnos yn gynt.
Rhuthrodd y llif dros ardal eang a chafwyd llifogydd enbyd. Gyda gwyntoedd pwerus o raddfa 9 gwaethygwyd y sefyllfa. Symudwyd miloedd o bobl o'u tai a'u rhoi mewn llety dros-dro, gyda badau yn cael eu defnyddio i gario pobol a'u nwyddau i ddiogelwch. Golchwyd traciau rheilffordd i'r m么r ger Mostyn, Prestatyn, Abergele a Phenmaenmawr a chollwyd y cyflenwad trydan mewn cartrefi rhwng y Bala a Chaer.
Difrodwyd 2,800 o dai o ganlyniad i'r gyflafan a bu'n rhaid i dros 6,000 o bobl adael eu cartrefi, yr ymgiliad mwyaf ym Mhrydain mewn cyfnod heddychlon. Roedd yr ymdrechion arwrol i achub bywydau a'r frwydr i drwsio mur y m么r yn ras enbyd yn erbyn y cloc.
Ond ynghanol y trybini gwelwyd garedigrwydd miloedd o bobl a ddaeth i helpu, straeon am deuluoedd yn dod at ei gilydd a genedigaeth diogel plentyn oriau wedi i'w fam gael ei hachub o'r llif. Daeth Tywysog a Thywysoges Cymru hefyd i ymweld 芒'r safle.
Yn 2010 cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai'n buddsoddi 拢2 miliwn yn y gwaith o wella amddiffynfeydd Tywyn. Os na fyddai'r gwaith hwn yn cael ei gyflawni, yna mewn 10 mlynedd byddai'r nifer o dai mewn perygl o'r llifogydd yn dwbli o'r rhif presennol i 2,760.
Bu'r llifogydd yn graith dwfn ar wyneb Tywyn a'r ardal a bu raid i rai aros am flynyddoedd cyn dychwelyd yn 么l i'w cartrefi. Costiodd y gyflafan dros 拢3 miliwn i Gyngor Clwyd ond roedd y colledion personol yn amhrisiadwy. Erys y gofid ymhlith trigolion o'r ardal o hyd y bydd y llifogydd, un diwrnod, yn dychwelyd.