1990
Towyn Llifogydd yn effeithio rhannau helaeth o arfordir y gogledd Ddiwedd Chwefror 1990, cododd storm ofnadwy ar arfordir gogledd Cymru. Chwipiwyd tonnau'r môr gan y gwyntoedd cryfion nes torri bwlch o 600 metr yn y morglawdd yn Nhowyn ger Abergele. Rhuthrodd y dwr dros ardal eang a chafwyd llifogydd enbyd. Symudwyd pobol o'u tai a'u rhoi mewn llety dros-dro, gyda badau yn cael eu defnyddio i gario pobol a'u nwyddau i ddiogelwch. Golchwyd traciau rheilffordd i'r môr ger Mostyn, Prestatyn, Abergele a Phenmaenmawr a chollwyd y cyflenwad trydan mewn cartrefi rhwng y Bala a Chaer.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Newyddion darlledwyd yn gyntaf 28/02/1990, 01/03/1990
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|