Iaith swyddogol - tua 800 OC i 1067 OC
29 Awst 2008
Ar 么l codi Clawdd Offa y dechreuodd y Gymraeg gael statws swyddogol yn nheyrnasoedd Cymru.
Cymraeg i bob pwrpas oedd iaith y system gyfreithiol Gymreig, a Chymraeg oedd iaith y campwaith llenyddol, y Mabinogi.
Yr oedd codi Clawdd Offa ddiwedd yr wythfed ganrif yn drobwynt yn hanes Prydain. Mae'n nodi'r ffin rhwng y Brythoniaid yn y gorllewin (sef Cymru heddiw) a'r llwythau Ellmynig yn y dwyrain (sef Lloegr heddiw) er fod siaradwyr Cymraeg o hyd i'r dwyrain o'r ffin a siaradwyr Saesneg i'r gorllewin.
Yr oedd Clawdd Offa yn rhoi i Gymru ffiniau daearyddol, a hyd oresgyniad y Normaniaid yr oedd gan y wlad fesur o annibyniaeth diwylliannol a gwleidyddol.
Yr oedd y gair Cymry wedi cael ei ddefnyddio er y seithfed ganrif, ond yr oedd yn awr yn boblogaidd fel gair i ddisgrifio pobl y wlad. Mae'n tarddu o'r gair Brythoneg Combrogi, sy'n golygu cydwladwr, a tharddiad yr enw Cumbria hefyd.
Fel roedd y teyrnasoedd Cymreig yn datblygu y tu hwnt i Glawdd Offa fe ddechreuodd yr iaith fagu statws swyddogol. Lladin oedd prif iaith ysgrifennu, a mabwysiadwyd yr wyddor er mwyn ysgrifennu Cymraeg.
Mae cofeb yn Nhywyn yn dyddio o'r flwyddyn 810 OC yn dweud mewn Cymraeg Cynnar, sy'n annealladwy i siaradwyr Cymraeg heddiw: 'Cingen celen tricet nitanam', sef o'i gyfieithu, 'Yma y gorwedd corff Cingen'. Ceir hefyd mewn llawysgrifau yn dyddio o'r 9fed a'r 10fed ganrif nodiadau Cymraeg ar ymyl rhai tudalennau.
Yn y 9fed ganrif un o'r brenhinoedd mwyaf pwerus oedd Hywel Dda. Ar wah芒n i uno'r wlad am gyfnod, fe hefyd sy'n cael y clod am gyfundrefnu cyfraith Cymru. O'r llyfrau cyfreithiol sydd wedi goroesi o'r drydedd ganrif ar ddeg mae rhai mewn Lladin ond mae'r mwyafrif yn y Gymraeg.
O ganlyniad i ddiwygiadau Hywel, Cymru oedd un o'r gwledydd Ewropeaidd cyntaf i gael cyfundrefn gyfreithiol yn ei iaith ei hun, ac mae'r ysgolheigion yn dweud mai'r Gymraeg oedd iaith lafar y llysoedd hefyd.
Yr oedd y blynyddoedd cyn i'r Normaniaid gyrraedd yn 1067 yn heddychlon ar y cyfan. Mae ysgolheigion o'r farn mai hyn a'i gwnaeth yn bosibl ysgrifennu'r casgliad o chwedlau enwog, Y Mabinogion, neu'n fwy cywir, Mabinogi, tua 1050 O.C.
Er nad oes s么n bellach am y llawysgrif wreiddiol, mae'r hanesion ar gael mewn dwy lawysgrif o'r bedwaredd ganrif ar ddeg: Llyfr Gwyn Rhydderch, sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a Llyfr Coch Hergest, sydd yn Llyfrgell Bodleian yn Rhydychen.
Yn 么l pob tebyg, gwaith un awdur yn gweithio mewn mynachdy Celtaidd yw'r campwaith llenyddol hwn. Dyma, medd yr Athro Gwyn Jones, gyfraniad neilltuol Cymru i ryddiaith yr Oesoedd Canol.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.