Y Normaniaid - 1067 - 1282
29 Awst 2008
Goresgynnwyd Cymru gan y Normaniaid Ffrengig eu hiaith drwy broses o ymosod a choloneiddio dros gyfnod o ddwy ganrif.
Eu dilynwyr, Saesneg eu hiaith, ddaeth 芒'r iaith i ganol bywyd bob dydd Cymru.
Brwydr Hastings yn 1066 oedd y digwyddiad tyngedfennol yn hanes concwest y Sacsoniaid yn Lloegr. O fewn blwyddyn yr oedd y Normaniaid yn codi castell yng Nghasgwent ac wedi dechrau concro Cymru fesul tamaid. Fe gymrodd dros 200 mlynedd i gwblhau'r dasg.
Dechreuodd y goresgyniad gyda chyfres o gyrchoedd dinistriol a oedd erbyn diwedd unfed ganrif ar ddeg wedi effeithio ar bron bob cwr o'r wlad. Cafodd yr arweinwyr brodorol un ai eu lladd neu ffoi i Iwerddon. Yn Rhagfyr 1282 bu farw'r olaf o dywysogion Cymru, Llywelyn, yn cael ei ladd gan un o ddilynwyr Edward 1.
Nid oedd y Cymry wedi cael y fath brofiad ers dyddiau'r Rhufeiniaid. Yr oedd gan y goresgynwyr y tro hyn ddwy iaith, Ffrangeg a Saesneg. Yr oedd yr arweinwyr Normanaidd yn siarad Ffrangeg; yn wir mae croniclwyr y cyfnod yn s么n nid am ymladd y Saeson ond am ymladd y Ffrancwyr. Mae rhai o eiriau'r p诺er newydd yn y wlad yn cael eu derbyn, megis barwn a gwarant.
Serch hynny, dilynwyr y Normaniaid, Saesneg eu hiaith, oedd y rhai a ymsefydlodd yn y tiroedd oedd wedi'u concro, gan ddod 芒'u hiaith i Gymru. Hyd heddiw mae de Sir Benfro'n cael ei adnabod fel Little England Beyond Wales.
Dywed Brut y Tywysogion bod trefedigaeth wedi'i sefydlu yn 1105 pan roddodd Harri'r 1af ganiat芒d i nifer o Ffleminiaid o'r lle a elwir yn Wlad Belg heddiw, ymsefydlu yng nghyffiniau Hwlffordd. Fe ymunodd Saeson 芒 nhw yn ddiweddarach. Yr oedd iaith y Ffleminiaid a'r Saeson yn debyg ar y pryd.
O ganlyniad bu farw'r Gymraeg yn yr ardal, a hyd yn ddiweddar nid oedd fawr o gydymdeimlad tuag at yr iaith. Ond, bu'r goresgyniad yn fodd i roi hwb i ymwybyddiaeth o Gymreictod ac i ddiwylliant dan fygythiad.
Mae Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis) yn adrodd hanes Harri'r 2il, brenin Lloegr. Yn ystod un o gyrchoedd y brenin yn y 12fed ganrif, gofynnodd Harri i Hen 糯r Pencader yn Sir Gaerfyrddin, a oedd e'n credu fod unrhyw siawns gan y Cymry. Ateb yr Hen 糯r oedd: "Never will it be destroyed by the wrath of man unless the wrath of God be added. Nor do I think that any other nation than this of Wales, or any other tongue, whatever may hereafter come to pass, shall on the day of the great reckoning before the Most High Judge, answer for this corner of the earth."
Byddai llawer o Gymry yn 1282 wedi dweud bod yr Hen 糯r yn rhy haerllug o lawer.
Yr Iaith Gymraeg
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.