Gari Wyn Williams - Rhufain - Mawrth 1, 2002 Rwy'n byw yn Rhufain ers rhyw flwyddyn a hanner, yn ffotograffydd i Agenzia Olympia ac yn tynnu lluniau pob mathau o drugareddau i gylchgronau a phapurau newydd, o brotestiadau, VIPs, gwleidyddion a gwyliau traddodiadol. Mis Hydref y daeth Hywel a'r criw drosodd i fy ffilmio fi wrth fy ngwaith. Chwilio am siaradwyr Cymraeg Peth braf oedd cael siarad fy iaith. Dwi wedi bod - ac yn dal i chwilio am siaradwyr Cymraeg yma, trwy roi hysbysebion mewn papurau newydd a siopau llyfrau Saesneg. Ond dim siw na miw yn anffodus. Gwell siawns cael wyth sgôr dro!! A dynar peth dwi'n hiraethu amdano fwya, siarad Cymraeg - a fy nheulu wrth gwrs. Ond mae yna fanteision byw yn Rhufain. Mae'r peth crwn, melyn, yna yn selog yn y nenfwd ac i ffotograffwr mae'n Ddolig pob dydd a hithan ddinas gyda chymaint i'm hysbrydoli. Mi fuo nhw'n dri diwrnod prysur o ffilmio.
Helynt efo pizza a moped Y bore cyntaf, yn Piazza del Popolo (Sgwâr y Bobol), doedd Hywel ddim ar fform, wedi bod wrthi trwy'r nos yn dweud "Helllllllooooooo" i'r ffôn mawr gwyn, ar ôl pizza ham hen!! Ond ar ôl cwpwl o sbins ar ei feic (a chwdiad i'r ffowntan) oedd o rêl jero!! Na, go wir ddaru fo ddim chwdu!!! Wedyn pwt bach o ffilmio yn fy fflat a chwrdd a Giovanni y canwr opera dwin rhannu fflat efo fo! Dangos fy ffolio a sôn am y wlad dros wydraid o win giami! Rhyfedd bod o flaen y camera yn lle tu ôl iddo fo!! Roedd hi'n dipyn o sbort heirio moped i Hywel ond unwaith iddo fo gael cwpwl o sbins o gwmpas stryd ddistaw ger y Colosseo mi aeth o'n reit hyderus a mynd dros 20mph, wir yr!!! Y prawf mawr! Rownd y gornel roedd y prawf mawr - Piazza Venezia - sgwâr prysura Rhufain. Rowndabowt fel dau gae ffwtbol yn orlawn o fopeds a cheir yn sgrechian a rhegi. Hywel ar ei foped, fi ar fy moped a'r fan a'r criw yn ein dilyn, rownd a rownd a rownd a ni!! Hywel Kenivel ta be!! Dydd Sul aethom i fyny i'r wyl castan "Sagra delle Castagne" ger Viterbo. Pentrefwyr yn eu gwisgoedd canol oesoedd yn canu a chystadlu i ddathlur gastan ac Olympia eisiau lluniau o'r wyl a hynny yn gyfle ir Bîb fy ffilmio yn rhedag fel mwnci o gwmpas y lle. Oedd hi yn wyl arbennig o dda - mae cryn dipyn ohonyn nhw yn yr haf. Gwyliau i win, castan, madarch, pysgod ayb. Yn union yr un fath ar wyl "Sgods a Sglods" yn Eryri!! Diwrnod ola o ffilmio yn Viterbo - fi yn siarad "spaghetti" mewn caff. Tipyn o hiraeth Amser dweud "Arrivederci" wrth y criw ac off a nhw i ffilmio Menna yn Ravenna. A daeth teimlad od iawn drosof a minnau wedi bod yn rhan o rhyw gymdeithas fach Gymraeg am dri diwrnod difyr dros ben ac yna, mewn chwinciad, yn ôl yn rhan o'r gymdeithas Eidaleg. Rhyw hiraeth unig. Edrychais i fyny a dyna ller oedd y peth crwn, melyn, yna uwch fy mhen. O wel, mewn bywyd fedra ni ddim cael pob dim!! Rwy'n bwriadu symud i Milan rhywdro flwyddyn yma, achos yno mae diwydiant ffotograffiaeth yr Eidal. Yn y dyfodol rwyf am ganolbwyntio ar dynnu lluniau "Stoc" i fy asiant rhyngwladol yn Llundain, sef Photonica, sydd yn gwerthu lluniau i'r byd hysbysebu byd eang. Yn y cyfamser, diolch i'r criw eto, Hywel, Gwennan, Mair, Steve a Dafydd am dri diwrnod difyr ac unigryw. Ciao, Gari! y cwmni y mae Gari yn gweithio iddo
|