Os oes un lle yn y byd y gellid ei ddisgrifio fel crud gwareiddiad, yr Aifft yw hwnnw. Dyma wlad anhygoel, lawn trysorau, gyda'i phobl yn bodoli yno gymaint â phum mil o flynyddoedd yn ôl.
A dyma'r wlad yr ymwelodd Hywel Gwynfryn â hi ar gyfer ail raglen Ar Dy Feic 2006 - Dydd Llun, Mai 15, 成人论坛 Cymru ar S4C)
Yno, cyfarfu â gwraig arbennig iawn o Fôn sy'n athrawes yn Cairo.
Cyfaredd o'r cychwyn O Amlwch y daw Catherine Symonds yn wreiddiol ac ers yn ddim o beth bu rhyw swyn a chyfaredd ynglŷn â'r Aifft ddi.
"I'r Aifft roeddwn i isho dŵad er pan oni'n blentyn bach," meddai, "ar ôl i mi glywed storïau gan fy mam.
"Roedd hi'n darllen lot i ni a'r dychymyg yn mynd â fi i lot o wahanol lefydd... ond fel hanes pawb, mi gymerodd hi dipyn o amser cyn imi fedru dŵad yma achos mi fum i'n trafeilio tipyn o gwmpas y byd."
Er gwaetha ofnau ei theulu sut ysgol y byddai Catherine yn gweithio ynddi, y gwir yw ei bod yn gweithio mewn ysgol i blant lleiafrif cyfoethog y wlad, gan gynnwys aelodau o deuluoedd brenhinol.
Mae'n gwybod ei bod hi a'r plant yn freintiedig iawn, er iddi gyfaddef bod ei chydwybod weithiau yn pigo gan ei bod mor ymwybodol o ba mor wahanol yw amgylchiadau llaweroedd yn y wlad.
Mae'r cyfleusterau yn neilltuol yn yr ysgol hon i blant rhwng 3 a 18 oed, a dysgu yn bleser.
"Unrhyw beth dwi angen i'r plant, mae o yna imi," meddai.
Cyfnod anodd Pan ddaeth Catherine i'r Aifft gyntaf, roedd yn gyfnod anodd yn ei bywyd, gyda salwch a cholled yn ei theulu agos ond yn awr mae'n dweud iddi gael nerth o dir yr Aifft, ynghyd â'i ffydd Babyddol, i ddelio ag amgylchiadau anodd.
Mae bellach yn ymddangos yn gartrefol hollol yn ei gwlad fabwysiedig, a phrofodd Hywel, yntau, beth o fywyd Cairo, lle mae Catherine yn byw gyda'i gŵr Tony.
Gyda'i strydoedd prysur, adeiladau uchel, y pyramidiau ar ei chyrion a'i basârs lliwgar, mae hon yn gornel unigryw o'r byd.
"Oni'n teimlo mod i wedi bod ar daith ar hyd fy mywyd yn chwilio am rywle lle dwi'n berffaith llonydd, perffaith dawel a pherffaith hapus," meddai Catherine.
"Dwi'n teimlo imi ddod i ben y daith, byw yma yr Aifft."
Ar Dy Feic, dydd Llun, Mai 8, 2006. 成人论坛 Cymru ar S4C
|