Mae De Affrica yn wlad sydd â hanes nad oes modd ei osgoi, a brwydr am gydraddoldeb sy'n dal yn fyw yng ngof gweddill y byd.
Heddiw, mae'n brwydro i gael ei hadnabod fel Cenedl yr Enfys, chwedl Desmond Tutu, yn wyneb problemau cymdeithasol enbyd.
Ar gyfer rhifyn, teimladwy ar adegau, o Ar Dy Feic bu Hywel Gwynfryn yn siarad â dwy Gymraes sydd wedi ymgartrefu yn y wlad liwgar hon.
O Fethel ger Caernarfon y daw Manon Elis Williams yn wreiddiol ond bellach yn gweithio yn Johannesburg i elusen Charities Aid Foundation sy'n gweithio yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig De Affrica.
Mae Manon yn rhan o gynllun gyda phlant a phobl ifainc sy'n defnyddio dawns a chanu traddodiadol i greu hyder ac addysgu yn y townships tlodaidd yn Soweto.
Ffilmiwyd criw o blant bach yn canu a dawnsio i Hywel a'r criw - profiad iasol o weld y balchder a'r brwdfrydedd ar wynebau'r plant am draddodiad a gafodd ei fygu a'i wasgu gyhyd.
Ac wedi cwrdd â Manon ymwelodd Hywel ag un arall sydd wedi ymgartrefu yn y wlad.
O fferm Gelli Fawnen yng Nglanaman y daw Irene Evans, a ddaeth i Dde Affrica 30 mlynedd yn ôl.
Am 25 mlynedd bu'n swyddog adnoddau dynol i'r Sowetan Times sydd yn bapur canolog i gyfryngau'r wlad, yn gwerthu dros 1.6 miliwn yn ddyddiol.
Y papur hwn fu'n cael ei gyfrif yn llwyfan i lais y dyn du dros y blynyddoedd.
Mae'r lluniau o ymweliad niferus Nelson Mandela â'r swyddfeydd yn dyst o bwysigrwydd y papur.
Mae cysylltiad Irene yn mynd yn ddyfnach na'i bywyd hi yno, gan mai yn nhir De Affrica y cafodd ei Hwncwl Dafydd ei gladdu.
Roedd Dafydd Transvaal, fel y gelwid ef, yn ŵr o gryn weledigaeth, gan iddo ddod i Dde Affrica ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf i werthu beics.
Yna y bu farw a bu moment emosiynol iawn pan ymwelodd hi â bedd ei hewyrth gan boeni pwy fydd yn gofalu am y bedd ar ôl ei dyddiau hi.
"Fi 'di darllen shwt gymaint amdano fe, fi'n teimlo bo fi'n ei adnabod e," meddai.
Ymwelwyd a'r Amgueddfa Apartheid a chofgolofn Hector Peterson, y bachgen cyntaf i'w ladd yn y Sowetto Uprising hefyd.
|