Y mae Tania a Tina o'r Hirwaun yn gadetiaid gyda Thrydydd Bataliwn (Cadet) y Gatrawd ac fe wnaethon nhw a 21 o gadetiaid eraill ymateb i wahoddiad, yng Ngorffennaf 2003, i dreulio wythnos ym Marics Barker yn Paderborn, yr Almaen.
Er bod Tania a Tina yn gadetiaid ers yn bump oed dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael profiad fel hwn a dyma'r tro cyntaf hefyd iddyn nhw fod dramor o gwbwl.
Ac ar ddiwrnod eu pen-blwydd yr oedd yna ddathliad bach arbennig wrth gwrs.
"Trefnwyd cwpwl o deisennau inni a doeddem ni ddim yn gwybod beth i'w wneud pan ddangoswyd hen luniau wedi eu chwyddo ohono ni yn nhy bwyta'r Gatrawd," meddai Tina.
Yn ystod yr wythnos cafodd yr efeilliaid flas ar sawl agwedd o fywyd y fyddin gan gynnwys gwersi ar y reiffl SA80 a chael golwg ar danciau Warrior.
Nid y pen-blwydd mwyaf arferol felly ond yr oedd yna amser i bethau eraill hefyd fel râs elusen bum cilometr, Râs am Fywyd, i godi arian tuag at ymchwil canser, ac ymweliad â baddonau twym yn Lippspringe cyn dychwelyd i bencadlys y cadetiaid ym Mhenybont-ar-Ogwr.
|