|
|
Dringo Kilimanjaro
Medi 2004 Mae Karen Peacock, un o gyflwynwyr y rhaglen deledu Ffeil newydd ddringo mynydd uchaf Affrica. Yma, mae'n dweud yr hanes:
|
Gyda 'phasport' go anarferol y cyrhaeddais i do Affrica. Pasport ar ffurf rhywbeth go annymunol fydd efo fi am byth.
Dwy flynedd yn ôl syniad ffôl fyddai hyd yn oed meddwl am drechu Mynydd Kilimanjaro, nac unrhyw fynydd arall, ond ar ôl canfod yn 26 oed fod clefyd siwgwr arnai, doedd dim amdani ond ceisio profi mod i'n medru gwneud pethau na wnes i erioed eu mentro o'r blaen!
Y diwrnod cyntaf Wedi dod i Affrica i gerdded oeddwn i, ac wrth deithio'r naw awr mewn bws mini o'r maes awyr ar hyd lonydd llychlyd diddiwedd i gyrraedd troed y mynydd, teimlwn braidd yn ddiamynedd! Ond rhwng bod yngwsg ac yn effro; am wledd ges i wrth weld y jiraffiaid, yr estrysod a'r gazelles, heb son am y Maasai - y llwyth brenhinol o urddasol sy'n gwarchod eu praidd yng nghanol y diffeithwch eang.
A minnau cyn agosed â hyn at y mynydd y lleia' yr oeddwn yn ei ddisgwyl oedd cipolwg arno ond doedd 'na ddim sôn am y Kilimanjaro ac eglurodd un o'r arweinyddion mai cuddio'r tu ôl i'r cymylau oedd o.
Yn gawr 19,340 o droedfeddi penderfynodd Kilimanjaro chwarae mig efo fi!
Mae'r enw Kilimanjaro yn perthyn i bobl y llwyth Chagga ac yn golygu yr un na ellid ei drechu!
Grêt, jyst be oeddwn i eisiau'i glywed!
O'r diwedd cyrhaeddwn bentref Maasai o'r enw Tinga Tinga - ein gwersyll am y noson, ac yn barod roeddwn i'n ysu am gawod.
Yr ail ddiwrnod Dilyn llwybr llai poblog o'r enw Lemosho i fyny'r mynydd. Roedd gen i syniad y byddai'r fforest law yr oeddem ni'n cychwyn cerdded ynddi yn ecsotig ac yn llawn ffrwythau di-ri, ond doedd dim smic oddi wrth y cricedau a'r goedwig yn debycach i un hynafol, Gymreig.
Roedd y cerdded yn gymharol hawdd a'r dasg anoddaf y diwrnod hwn oedd ceisio cofio enwau'r 29 o'm cyd gerddwyr!
Erbyn diwed y dydd cyrhaeddwyd 9,200 o droedfeddi a'n gwersyll y noson honno, y Big Tree Camp.
Y trydydd diwrnod Am ffordd braf i ddeffro. Cael paned o dê gan un o'r 90 o gludwyr a phowlen fechan o ddŵr cynnes i ymolchi.
Daeth hwn yn arferiad yr oedd croeso mawr iddo weddill y daith.
Yn hwyr neu'n hwyrach, rhaid sôn am y trefniant tŷ bach - wel, roedd o ychydig yn fwy gwaraidd nag oeddwn i wedi'i ofni ac o leia roedd canfas sgwâr o amgylch y twll yn y ddaear.
Bu hwn eto yn ddiwrnod llawn cerdded ac erbyn diwedd y dydd roeddem ni 2,000 o droedfeddi yn nes at y copa, a'n nod - diwedd y daith - mewn golwg.
O'r diwedd ar ôl tri diwrnod o gerdded roedd y monstar i'w weld ac ni allwn gredu ei uchder a'i faint.
Gwersyllwyd ym mherfeddion desert plateau o'r enw Shira.
Y pedwerydd diwrnod Jambo! - Helo. Y Swahili yn dechrau clicio erbyn heddiw!
Wrth fynd yn uwch roedd y noethni i'w weld ac i'w deimlo. Roedd hi'n oer a mawnog ddiffaith ym mhobman. Côn y'i gelwir yn Shira a gellid gweld lle'r oedd y lafa o'r copa wedi llifo lawr.
Er mwyn cysgu'n iawn a dechrau arfer a'r ffaswin uchder roedd yn rhaid cyrraedd 12,200 o droedfeddi ond cysgu dipyn is.
Dechreuai rhai o'r aelodau deimlo cur pen a cholli eu chwant bwyd - a rhedeg yn amlach am y twll o dŷ bach.
Y cyngor gawsom ni oedd i yfed digon o ddŵr ac efo fy mhedair litr, roeddwn i'n dygymymod yn iawn.
Y pumed diwrnod Hwn yn ddiwrnod hirach nag oedden ni wedi'i ddisgwyl - i fod yn saith awr bu dros naw wedi i un o'r dynion, Neil, gael ei daro gan hypo go ddrwg.
Digwydd hyn i bobl sy'n dioddef o glefyd siwgwr pan fo lefel y glwcos yn y gwaed yn mynd yn rhy isel. Oherwydd ei ffit, bu'n rhaid i'r grŵp oedi rhyw ddwy awr a hynny'n golygu inni orfod defnyddio fflachlampau.
Mi roeddwn i wedi rhyfeddu at fy nghyflwr fy hun ar y mynydd gyda fy lefelau siwgr yn llawer mwy cyson nag ydyn nhw pan fyddai adref a fy anghenion inswlin wedi haneru - yn gwbwl groes i'r chwech arall oedd yn dioddef ar y daith.
Er inni gyrraedd 14,500 o droedfeddi roedd y gwersyll 12,900 ac yr oedd yn rhwystredig cerdded lawr a ninnau'n gwybod bod cymaint o ffordd i fynd i'r cyfeiriad arall!
Roedd yn braf iawn gweld gwersyll Barranco.
Y chweched diwrnod Bydd yn rhaid imi gael un o'r watsus Affricanaidd 'ma! Hanner diwrnod o gerdded oedd heddiw i fod ond eto mi wnaethon ni ormod! Cyngor gofalus yr arweinyddion efo'u Pole, pole - ara deg, ara deg - oedd ar fai debyg!
Dim ond heddiw y dechreuais i deimlo fod y cerdded yn dechrau dod yn her - ond doedd gen i ddim lle i gwyno beth bynnag gyda'r cludwyr yn cario fy mhrif bac ar eu pennau.
A doedd yna ddim Pole, pole iddyn nhw, dim ond Haraka, haraka - cyflym, cyflym. A hynny yn eu fflip fflops a'u hesgidiau styds pêl-droed.
Roedd gan rai o'r dynion yma 35 cilogram ar eu pennau, pob cam o'r ffordd.
Roedd yna dipyn o ddringo yn ogystal â'r cerdded, erbyn hyn a phobl yn teimlo'n wirioneddol sâl ac yn dioddef o salwch pen mynydd, hyd yn oed gyda Diamox, y cyffur sy'n atal salwch uchder.
Ond roedd y teimlad o 'gamaraderie' yn tyfu yn ein plith.
Y seithfed diwrnod - Y Ddiwrnod Mawr Erbyn hyn roeddwn yn dechrau gofyn i mi fy hun, Be andros dwi'n i wneud?
Ac fel pe bai cerdded drwy'r dydd ddim yn ddigon rhaid cerdded drwy'r nos hefyd!
Gadael y babell am hanner nos ar ôl pendwmpian am ddwyawr a thrio cyrraedd y copa erbyn y bore!
Ffwrdd a ni gyda'n pedair haen o ddillad am ein coesau a chwech am y corff - mae hi'n 25 gradd dan rewi!
A dyna hen gythraul o beth ydi sgri mân! Ond o leia mae'r oerni yn ei gwneud hi'n dipyn haws cerdded arno!
A dyna lle fuon ni am oriau yn igam ogamu i fyny tua Stella Point. Yng ngolau'r lloer mae'r brig i'w weld yn glir - cyrraedd y diawl fydd y gamp! A minnau fel plentyn yn gofyn bob munud, "Ydan ni bron iawn yna?" neu "Faint o amser eto!?" 'Dwi erioed wedi teimlo mor bigog, clawstraffobig a da i ddim. Un o ganlyniadau diffyg ocsigen yw gwneud ichi falio dim. A dim ond am gwsg y gallai feddwl.
Rydym ni gyd mor bathetig yn llusgo i fyny'r mynydd fel rhyw grocodeil mawr blin.
Sefyllfa oedd yn fy atgoffa o Frodo a Sam yn dringo Mount Doom yn y ffilm Lord of the Rings!
Ond o leiaf mae sêr i'w gweld yn y tywyllwch digalon.
Tra'n mwmblan wrthyf fy hun mi ges i gwmni annisgwyl o rywle yn fy nychymyg - ci defaid Cymreig yn arwain y ffordd.
Doeddwn i erioed wedi 'gweld pethau' o'r blaen, ond cafodd y creadur yma groeso cynnes!
Ond wedyn, wrth i'r haul wawrio dros Gefnfor India, dechreuodd y cyfan wneud synnwyr eto a minnau'n dechrau cofio pam imi gytuno i wneud y ffasiwn beth a bu cerdded tua'r copa wedyn, yng ngolau dydd, dipyn haws.
Pen y daith Am 8.30 y bore ar Fedi 9 y cyrhaeddais gopa uchaf Affrica a phen llosgfynydd ucha'r byd. Theimlais i erioed o'r blaen mor fach - ac mor falch.
Hyd yn oed wrth sgwennu hwn rwan mae'n teimlo'n swreal ac fel atgof pell iawn.
Ond fel pawb arall sy'n mentro a chyrraedd Uhuru - y pegwn uchaf - mae gen i fy llun wrth yr arwydd, a dipyn bach mwy hefyd: Cerdded 96km. Profi nerth cyfeillgarwch. Ond er yn falch imi gyflawni hyn wnâi byth i wneud o eto!
Elusen Diabetes UK oedd yn trefnu'r daith y cymerodd Karen ran ynddi.
"Ers cael y cyflwr 'dwi wedi bod yn ymwneud tipyn â nhw. Mi dalais i gost y daith fy hun ond mi roeddwn i'n cytuno i hel cymaint o arian ag yr oeddwn i'n gallu. Hyd yn hyn mae yna dros £2,000 yn y coffrau ac mae'r arian yn dal i lifo i mewn," meddai.
|
|