Yn prysur bacio ei chês ar gyfer ei hail ymweld â Nepal mae Dilys Elis, Dirprwy Brifathrawes Ysgol Maes Hyfryd yng Nghynwyd. Y llynedd bu yno yn edrych ar addysg y wlad a chysylltu ag ysgolion i greu partneriaeth mewn addysg drwy efeillio.
Eleni bydd yn mynd â ffrindiau efo hi gyda'r bwriad o drecio i Pochara a mynyddoedd Annapurna yn ystod y pythefnos y byddan nhw yn y wlad. Ond yn bwysicach na hynny mae hi'n edrych ymlaen at weld yr ysgol sydd wedi ei chyfeillio a'i hysgol hi yng Nghynwyd. "Erbyn heddiw mae'r cysylltiad yn un cryf iawn a dwi'n teimlo fy mod yn adnabod y plant ac wedi dysgu cymaint am eu bywydau, eu crefydd a'u diwylliant drwy'r llythyrau sydd yn cael eu hanfon i'r ysgol," meddai Dilys sy'n byw yng Ngherrigydrudion. Cyfoethogi trwy ddod i wybod am dlodi Dywedodd ei bod yn gobeithio i'r profiad o ddysgu am wlad fel Nepal gyfoethogi ei disgyblion yng nghefn gwlad Cymru. "Ry'n ni wedi gwneud tipyn o waith ar y wlad, wedi gwneud masgiau, dysgu am eu crefydd a'r holl dduwiau sy'n cael eu haddoli. Mae'n anodd i blant y wlad yma ddygymod â'r gwahaniaeth ac yn sgil yr addysg yma dwi'n gobeithio bydd y plant yn tyfu'n ddinasyddion byd-eang." Yn eistedd ar ei gwely a'i chês yn llawn i'r ymylon, nid yw Dilys yn poeni am y daith i Nepal. "Mae na waith newid ar yr oriawr wrth deithio ond dwi'n mwynhau cyfarfod y plant sydd yn byw bywyd tra gwahanol i blant yn y wlad yma. Mae na le mawr inni ddiolch." Wedi naw diwrnod yno y llynedd a chael y cyfle i ymweld â nifer o ysgolion y wlad, penderfynwyd mynd ati'n syth i geisio cynorthwyo ysgol fechan Jaleshwory yn Dhading, rhyw dair awr o daith o'r brifddinas Kathmandu. Dod at ei gilydd i hel arian Daeth Ysgol Maes Hyfryd ac Ysgol Gellifor at ei gilydd i gasglu arian i helpu trwsio'r adeilad a chael dwr a thoiledau yno. "Ma na gysylltiad agos iawn wedi ei gadw dros y flwyddyn a phrifathro'r ysgol yn Jaleswhory yn y paratoi a'r cynllunio ar gyfer yr ysgol arbennig yma," meddai. "Yn ystod ein taith y llynedd fe fu yno gyfarfod a'r prifathro ac aelod seneddol yr ardal er mwyn trafod beth oedd eu hamcanion. Gan fod yno gymaint o waith atgyweirio a gwella ar yr ysgol mae na sôn efallai y byddai'n well mynd ati i godi ysgol newydd yn hytrach na mynd drwy'r broses hir o atgyweirio," ychwanegodd. "Mae hi'n wlad dlawd ofnadwy a theulu'r plant yn gorfod talu am eu haddysg. Oherwydd hyn mae yno wahanol safonau o addysg gyda'r rhai sy'n gallu talu yn cael addysg reit dda ond y rhai tlawd yn gorfod cael addysg heb bapur na phensel ac yn cael eu dysgu mewn sied ar lawr o fwd." Llythyru a'i gilydd Am y cysylltiad â Chymru dywedodd: "Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r plant wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am fan y postman gyda llythyrau oddi wrth blant Nepal. Mae Rakesh 14 oed wedi bod yn ysgrifennu yn gyson ac yn anfon nodyn i bob un o blant blynyddoedd pump a chwech ynghyd â chardiau post. "Gyda'r nodiadau yma mae'r plant wedi eu cyfoethogi ymhellach o wybod am draddodiadau a gwyliau Nepal. "Mae athro yno hefyd, Lamani Joshi, wedi cadw cysylltiad agos ac mae'n gobeithio dod drosodd i Fangor i astudio am chwe mis." Mae'r ty yng Ngherrigydrudion yn llawn lluniau, dillad ac atgofion o ymweliad y llynedd a chasglodd arian trwy ddangos sleidiau i Ferched y Wawr a sefydliadau eraill. "Er ein bod ni wedi sefydlu cronfa yma yng Nghymru i gyfoethogi addysg y plant yn Nepal, mae'n bwysig hefyd fod ysgolion a phobl Nepal yn mynd ati i gasglu arian eu hunain er mwyn gweld gwerth yn yr hyn maent wedi ei adeiladu," meddai Dilys.
Bydd siec o £3,000 gan gronfa elusen a sefydlodd Ysgol Gellifor ac Ysgol Maes Hyfryd ym mhoced Dilys i'w throsglwyddo yn ystod ei hymweliad. "Rydym ni wedi cael nosweithiau coffi, raffls ac ysgrifennodd y plant at fusnesau a chwmnïau lleol yn gofyn am gefnogaeth," meddai. Wedi i Dilys ddychwelyd i gefn gwlad Cymru bydd rhai o blant bach Nepal yn gwisgo crysau t arbennig Ysgol Maes Hyfryd gyda'r Ddraig Goch arnyn nhw ac y talwyd amdanyn nhw gan Terry Hooson, cwmni Snap On. "Lle i'r crysau T, pensiliau, papurau ysgrifennu, dwi eisiau fwyaf yn y cês," meddai. "Dwi'n gobeithio yn fawr fod plant bach Cymru yn sylweddoli eu bod yn lwcus ac yn freintiedig iawn, a thrwy'r gefeillio fod Ysgol Maes Hyfryd yng Nghynwyd yn fwy ymwybodol o rai llai ffodus na'i gilydd."
|