Mae gŵr o'r Wladfa sydd wedi derbyn sawl anrhydedd gan ei wlad ei hun, bellach wedi derbyn anrhydedd o Gymru.
Fis Hydref 2010 derbyniodd Dewi Mefin Jones, Trelew, lythyr gan Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn mynegi ei awydd i'w anrhydeddu am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymreig y Wladfa, gan nodi'n arbennig ei waith mawr gyda'r Eisteddfod.
Dywedodd y byddai'r Llysgennad Shan Morgan yno i helpu gyda'r dathlu.
Yn anffodus nid felly y bu. Roedd y Fns Shan Morgan yn methu bod yn yr Eisteddfod oherwydd anhwylder a bu'n rhaid aros tan ddydd Gwener, Chwefror 18, cyn gallu gwireddu dymuniad y Prif Weinidog. Y diwrnod hwnnw gwahoddwyd Dewi Mefin a'i wraig Eileen, ynghyd â Luned González i giniawa gyda Shan Morgan yn Gwalia Lân, Gaiman, ac yn ystod y cinio rhoddwyd cyfrol hardd yn cynnwys lluniau o dirwedd Cymru a dau ddisg o gerddoriaeth i Dewi i gofio am yr achlysur. Cyfrol yn addas iawn i un a arbenigodd mewn Daearyddiaeth.
Cathrin Williams
|