Mae tuedd amlwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe yr wythnos hon i fod wedi dewis llywyddion y dydd sydd wedi disgleirio oddi ar lwyfan eisteddfod.
Yr athletwraig Lowri Morgan fydd llywydd dydd Mawrth, a hithau wedi rhyfeddu gwylwyr teledu gyda'i dyfalbarhad yn ymgymryd 芒 sawl her a fyddai wedi bod yn drech 芒'r rhan fwyaf.
Y mae hi newydd gwblhau yr uwch farathon 6633 yn rhedeg 350 milltir yn yr Arctig gan briodoli ei llwyddiant anhygoel yno ac mewn lleoedd fel yr Amason i'r profiadau a gafodd yn sgil yr Urdd yn ei hannog i wynebu profiadau newydd.
Dysgodd yr Urdd iddi, meddai, ymdrechu yr ymdrech eithaf a rhoi o'i gorau bob amser.
Un sy'n rhagori ar y maes p锚l-droed fydd llywydd dydd Mercher, Joe Allen, sy'n chwarae i d卯m Abertawe. (nid dydd Iau fel y dywed Rhaglen y Dydd)
Gwyn Jones y chwaraewr rygbi fydd llywydd dydd Iau. Ef, nes iddo gael ei anafu yn un o chwaraewyr rygbi mwyaf addawol Cymru ac yn awr yn sylwebydd gyda'r uchaf ei barch.Dywed iddo gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau gyda'r Urdd gan gynnwys canu mewn c么r a bod yn aelod o gr诺p dawns gwerin.
Bu'n ddawnsiwr unigol hefyd - ond heb gyrraedd y llwyfan cenedlaethol! Dywedodd i'r Urdd fod yn bwysig iddo ef a'i deulu ac yn rhan hanfodol o fywyd.
Chwaraewr rygbi arall, Shane Williams, chwaraewr mwyaf disglair Cymru y blynyddoedd diwethaf, fydd llywydd dydd Gwener a chanmolodd ef yr Urdd am roi cyfle i bawb beth bynnag eu gwahanol ddiddordebau.
Gwerthfawroga hefyd y ffaith y gellir gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y llywydd arall eleni yw Cerys Matthews , ddydd Llun.
Straeon heddiw
- Alex Jones yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe
- Cerys - tyfu gyda'r hen ganeuon
- Cerys Matthews yn Llywydd y Dydd
- Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe: Lluniau dydd Sul
- Llywyddion Eisteddfod yr Urdd Abertawe
- Pasiant Meithrin fore Llun
- Siom na chafodd oedfa lwyfan
- Y Fedal Gyfansoddi: Perlau yng nglaw Abertawe