Graddfa ydi thema pabell wyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe - ac mae ei harddangosfeydd yn hynod boblogaidd yn 么l gradd y diddordeb a ddangoswyd ynddynt gan rai cannoedd o blant fore cyntaf yr Eisteddfod.
"Mewn awr aeth cant o blant drwy'r babell," meddai Kate Evans, darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Y mae pob math o bethau yn ymwneud 芒 maint a gradd ym mhabell GwyddonLe gan gynnwys 15 metr trawiadol perfeddyn mawr bod dynol!
Y nod ydi dod 芒 gwyddoniaeth yn fyw i bobl ifanc - ac i rieni a theidiau a neiniau tas hi'n mynd i hynny - gyda phob math o arddangosfeydd a gweithdai gwyddonol rhyngweithio.
Cydweithiodd Prifysgol Abertawe gyda chyrff fel Tata Steel, Techniquest, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus.
Mae model o'r car uwchsonig Bloodhound y bu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe ran allweddol yn ei ddylunio ar gyfer codi 'r Record Byd ar gyfer Cyflymder Tir i 1,000 milltir yr awr erbyn 2012.
Hwyl sydd i'w gael yn y babell; wrth graffu er enghraifft trwy ficrosgop grym atomig sy'n dangos strwythurau o ddim ond nanometr, cyffwrdd anifeiliaid m么r, dadberfeddu bod dynol, syllu ar ffosiliau ac ati.
Ond fel y dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor y Brifysgol mae cymhelliad yn un cwbl o ddifri;
"Os yw prifysgolion i adeiladu yn effeithiol ar lwyddiant ysgolion cyfrwng Cymraeg mae'n hanfodol bod y Gymraeg nid yn unig yn cael ei gweld fel iaith y celfyddydau a diwylliant, ond hefyd fel iaith gwyddoniaeth, ymchwil a menter. Dyma pam ein bod ni mor falch o gael ymuno 芒'r Urdd i lwyfannu'r GwyddonLe," meddai.
"Drwy ddod 芒 gwyddoniaeth yn fyw mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol, gobeithiwn y bydd gweithgareddau'r GwyddonLe'n sbarduno meddyliau'r ymwelwyr ifanc i ddilyn gyrfaoedd yn y meysydd allweddol hynny," ychwanegodd.
Cyfeiriodd Kate Evans hefyd mewn cynhadledd i'r wasg fore Llun at y traddodiad gwyddonol sydd i fro'r Eisteddfod.
Mae sylw hefyd i'r berthynas rhwng Moeseg a Gwyddoniaeth gyda chyfle i drafod a mynegi barn am bynciau dadleuol fel clonio dynol a nanodechnoleg.