Rhoddodd un o gyfarwyddwyr theatr blaenllaw Cymru bwyslais ar greu sioeau theatr yn defnyddio deunydd o Gymru yn hytrach na throi at ddeunydd Saesneg ac Americanaidd.
Yr oedd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr artistig theatr Arad Goch a chyfarwyddwr sioe lwyddiannus Plant y Fflam yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y llynedd, yn trafod ei gynlluniau ar gyfer cynhyrchiad nesaf Theatr Ieuenctid yr Urdd pan wnaeth ei sylwadau am bwysigrwydd defnyddio'n deunydd ein hunain.
Yn dilyn llwyddiant Plant y Fflam wedi ei sylfaenu ar albwm Edward H Dafis dywedodd mai albwm arall gan y gr诺p fydd sylfaen y sioe nesaf hefyd, Sneb yn Becso Dam.
"Mae'n s么n am faterion sydd o hyd o bwys i bobl ifainc Cymru . . . am fywyd y dref a bywyd cefn gwlad a gwarchod etifeddiaeth a llunio Cymru gyfoes yr unfed ganrif ar hugain," meddai.
"Dyna fydd yr her am y flwyddyn nesaf," ychwanegodd.
"Ac mae'n mynd i fod yn sioe wahanol iawn i Blant y Fflam. Mae'r deunydd yn mynd i fod yn fwy caled ac mae llawer iawn o gwestiynau a dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda'r bobl ifainc iddyn nhw ddatblygu sgript gyda fi a gweddill y t卯m," meddai Mr Turner sydd hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Bydd y cynhyrchiad mewn tri lleoliad yn 2012 yn benllanw prosiect a gefnogwyd gan y Legacy Trust UK a Choleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant.
Wrth s么n am ei weledigaeth fel cyfarwyddwr Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd cyfeiriodd Jeremy Turner at sawl nod a osododd iddo'i hun.
"Gosodes sawl bwriad gan gynnwys galluogi aelodau'r cwmni i hyfforddi o dan arweiniad amrywiaeth o artistiaid creadigol proffesiynol, defnyddio arddulliau perfformio cyfoes - rhai ohonynt yn 'anghonfensiynol' neu answyddogol sy'n rhan o fywyd cyfoes pobl ifanc a dangos fod modd creu theatr gyfoes a deinamig wrth ddefnyddio deunydd Cymraeg.
Yn ymuno a Mr Turner galwodd un o gyn aelodau'r cwmni ac actores broffesiynol, Lynwen Haf Roberts, ar bobl ifainc o bob rhan o Gymru fanteisio ar y cyfle i fod yn rhan o'r cwmni.
"Roedd cael bod yn rhan o gwmni theatr yn brofiad gwerthfawr iawn i mi. Fe roddodd sylfaen dda i mi o ran hyfforddiant ond yn fwy na dim, roedd yn le gwych i wneud ffrindiau a dod i adnabod pobl o bob rhan o Gymru sydd bellach yn ffrindiau da iawn i mi," meddai Lynwen sy'n dod o Lanfair Caereinion.