成人论坛

Y Goron a'r Gadair

Mari a'r Goron

16 Mai 2011

Mae Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Abertawe yn awr yn barod ar gyfer yr wythnos fawr.

Gemydd lleol, Mari Thomas, sydd wedi gwneud y Goron ac fe'i dangoswyd gyntaf mewn digwyddiad yn ei stiwdio yng Nglanfa SA1 yn y ddinas.

Ar yr un pryd dadorchuddiwyd y gadair a wnaed gan Aled Tinnuche, Pennaeth Celf a Dylunio Ysgol Gyfun Gwyr.

Mae'r goron yn rhodd gan Ysgolion Cynradd Cyfrwng Cymraeg Abertawe a'r Gadair gan ddwy ysgol uwchradd yn yr ardal, Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe ac Ysgol Gyfun Gwyr.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd yr enillydd yn cael cadw'r goron, sydd o arian pur, am byth yn hytrach na chopi bychan fel yn y blynyddoedd a fu.

Yr her i'r cystaleuwyr am y Goron oedd cyfansoddi dros 4,000 o eiriau ar y thema 'Ffiniau'.

Bydd y seremoni ddydd Gwener Mehefin 3.

Meddai Mari am y Goron: "Roeddwn yn awyddus i greu coron gyfoes fyddai'n adlewyrchu'r ffaith mai dyma'r tro cyntaf erioed i'r enillydd gael cadw'r goron.

"Yr Hwyl Bont oedd fy mhrif ysbrydoliaeth gan ei fod yn gynllun gwych a dwi'n ei weld yn ddyddiol o'n stiwdio yn y Lanfa."

Dywedodd i'w ffrind, yr artist mewn gwydr, Jo Partridge, ymdoddi copr i mewn i wydr glas sydd wedi ei osod yn y goron.

"Mae'r glas yn amlwg yn gyfeiriad at y m么r a'r copr yn adlais o draddodiad cryf Abertawe fel allforiwr copr," meddai Mari sydd hefyd wedi cynllunio coron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

"Ond roeddwn i'n awyddus i ddefnyddio gwydr gan fod Abertawe yn cael ei gyfri fel canolfan ragoriaeth ar gyfer gwydr lliw, ffaith nad yw nifer o bobl yn ymwybodol ohono," ychwanegodd.

Aled a'r Gadair

Y gadair
Dywedodd Aled Tinnuche, sy'n hanu o Gorslas, Sir Gaerfyrddin, ond sy'n awr yn byw yn Llanedi, mai'r ysgrifbin fu'n ysbrydoliaeth iddo ef wrth gynllunio'r Gadair.

"Ac i adlewyrchu hynny mae cefn y gadair wedi ei gerfio i si芒p yr ysgrifbin," meddai.

Mae hithau, fel y Goron, yn adlewyrchu traddodiad diwydiannol yr ardal.

"Mae delweddau y tyrrau copr wedi eu naddu yn y gadair ac yn adlewyrchu cyfnod Abertawe fel Copperopolis, fel yr oedd y ddinas yn cael ei hadnabod pan oedd yn cyflenwi 60% o holl gopr y byd ac mae darnau o gopr a dur wedi eu hymgorffori yn y gadair," meddai.

"Roedd hi'n bwysig i mi i ddefnyddio pren lleol, felly pren yr onnen sydd wedi creu y ffr芒m a'r gweddill o bren y fedwen.

Mae iddi gefn hir ac ynddo naw twll bob ochr a gwialen gopr wedi ei fewnosod trwyddynt.

"Ond er mwyn gwrthgyferbynnu rhwng y cefndir diwydiannol sy'n amlwg iawn yn y delweddau mae yma hefyd gerflun o lanw a thrai Bae Abertawe, delwedd dawel a phrydferth," eglurodd.

Y buddugol am gyfansoddi cerdd, heb fod dros 100 llinell ar y thema 'Fflam' fydd yn ei hennill gyda'r seremoni ddydd Iau yr Eisteddfod.


成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.