Datgelodd Angharad Tomos fore Mawrth wrth gyfarch y wasg fel Llywydd y Dydd, mai 'eu teulu nhw' ydi'r unig rai bellach ar ochr ei thad sydd yn siarad Cymraeg.
"Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i gael fy magu yn Gymraes wedi i'r teulu symud i Ddyffryn Nantlle," meddai.
"Ond teulu fy nhad ydy'r unig un bellach sy'n siarad Cymraeg."
"Roedd fy nain o Sir y Fflint a wnaeth yr iaith ddim cael ei phasio ymlaen ymhlith aelodau eraill y teulu."
Wrth gyfeirio at ddigwyddiad i ar y maes heddiw, ychwanegodd yr awdures a'r ymgyrchydd iaith ei bod yn edrych ymlaen at y diwrnod pan na fydd 'na unrhyw 'ddysgwyr' yng Nghymru a galwodd am sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i bawb o oedran meithrin ymlaen.