Mae Maes Eisteddfod yr Urdd, Eryri 2012 ger Coleg Glynllifon tua 6 milltir o Gaernarfon ar yr A499 i Bwllheli. C么d post safle'r coleg ydi LL54 5DY. Bydd y fynedfa arferol o dan y bwa ar gau i eisteddfodwyr yn ystod yr wythnos.
Daw'r wybodaeth hon oddi ar wefan yr Urdd - www.urdd.org.
O Fangor Dilynwch yr A487 allan o Gaernarfon. Wedi mynd trwy bentrefi Bontnewydd a Dinas cymerwch y A499 oddi ar gylchfan Llanwnda tuag at Bwllheli. Mae Glynlifon ar y chwith ymhen llai na 3 milltir.
O'r de Dilynwch y A487 o Borthmadog am Gaernarfon ac wedyn dilynwch yr arwyddion am yr Eisteddfod o'r gylchfan fydd yn eich tywys i'r Maes.
Gwyliwch am yr arwyddion melyn fydd yn eich arwain tuag at y meysydd parcio drwy fynedfa newydd i gaeau'r coleg. Ni fydd y fynedfa bwa arferol (uchod) ar agor yn ystod yr Eisteddfod.
Bysus gwennol
Bydd hefyd gwasanaeth bws gwennol o Gaernarfon a Phwllheli. Cadwch lygad ar wefan yr Eisteddfod
am fanylion pellach.
Bysiau Arriva Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd cwmni Arriva yn darparu gwasanaethau bysiau arbennig bob hanner awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn:
- Gorsaf Bysiau Caernarfon i Safle'r Eisteddfod yng Nglynllifon rhwng 09:30 a 17:30
- Safle'r Eisteddfod yng Nglynllifon i Orsaf Bysiau Caernarfon rhwng 10:00 a 18:00
- Gorsaf Bysiau Pwllheli i Safle'r Eisteddfod yng Nglynllifon rhwng 09:20 a 16:55
- Safle'r Eisteddfod yng Nglynllifon i Orsaf Bysiau Pwllheli rhwng 10:00 a 17:35
Bydd arhosfan arbennig o fewn pellter cerdded hwylus i Ganolfan Groeso'r Eisteddfod ar gyfer gollwng a chasglu teithwyr. Codir t芒l bychan gan Arriva ar deithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn. Mae'r amserlenni cyflawn ar gael drwy gysylltu 芒 Traveline Cymru ar 0871 200 22 33.