Sioc i Fardd Plant Cymru
Tlodi iaith yn synnu Caryl Parry Jones
Dywedodd Bardd Plant Cymru iddi gael "sioc" o weld y dirywiad mawr yn y Gymraeg yn ystod ei hymweliadau ag ysgolion ar hyd a lled Cymru.
A hithau ar fin trosglwyddo'r swydd i'w holynydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni dywedodd Caryl Parry Jones iddi gael ei synnu gymaint fu dylanwad y Saesneg ac Americaneg ar eirfa plant.
Wrth s么n am ei thymor yn fardd plant dywedodd Caryl wrth Dei Tomos ar 成人论坛 Radio Cymru:
"Os oes yna rywbeth negyddol wedi dod o'r daith yma [o gwmpas ysgolion Cymru] - a phositif ydi'r rhan fwyaf - dydi o ddim yn or-ddweud imi gael sioc gyn lleied o eirfa barod sydd yna," meddai.
"Wrth fynd o gwmpas y gwahanol ardaloedd rydw i wedi gweld bod yna ddirywiad yn y Gymraeg mewn ardaloedd lle na fyddech chi'n disgwyl.
"Mynd i ardaloedd gwledig yn y gorllewin lle mewn dosbarth o ugain mae 16 yn Saeson - nid Cymry di-Gymraeg; nid o gefndiroedd Cymraeg ond yn Saeson rhonc ac wrthi'n dysgu Cymraeg ac mae'r baich sydd ar yr athrawon yma i'w troi yn Gymry yn aruthrol.
"Mi ewch chi i ysgolion y de yng Ngwent ac ym Morgannwg a Chaerdydd a Chastell-nedd, Abertawe ac ati ac er bod y mwyafrif o'r plant yn dod o gartrefi di-Gymraeg mae'r ewyllys yna . . . ac maen nhw wedi cael eu hanfon yno am fod eu rhieni am iddyn nhw fedru siarad Cymraeg ond yn yr ardaloedd mwy traddodiadol Gymraeg a Chymreig mae yna ganser mewn ffordd lle mae'r Gymraeg yn dirywio a lle nad ydi'r eirfa ar flaenau tafodau pawb.
"Mae'n anodd oherwydd mae popeth mae plant yn ei fwynhau y Nintendo Wiis, DVDs y Cartoon Channel - maen nhw i gyd yn Saesneg ac nid yn unig yn Saesneg ond yn Americaneg ," meddai gan ychwanegu bod y geiriau hyn yn britho iaith plant.
Ond yr oedd eithriadau:
"Yr ydw i wedi bod mewn ysgolion lle mae'n f锚l i'r glust ," meddai gan gyfeirio wrth eu henwau at Ysgol Llanddoged ger Llanrwst, Ysgol Llangefni, Ynys M么n, Ysgol Bro Plennydd yn Y Ff么r a oedd meddai yn "enghraifft wych o'r Gymraeg ar ei gorau" er nad oedd pawb yn dod o gefndiroedd Cymraeg. - "Ond llond ceg o Gymraeg," serch hynny.
"Ac imi gael bod ychydig bach yn wleidyddol - a dydw i ddim yn honni fod gen i y ffeithiau i gyd - ond os oes yna unrhyw enghraifft o pam na ddylai ysgolion bach y wlad gau honna di'r un," meddai.
"Mae'r Cymry yn y mwyafrif yno felly mae'r rheini sydd wedi symud i mewn yn gorfod cael eu boddi mewn Cymreictod a'r iaith Gymraeg," meddai.
Yn ystod ei sgwrs bu'n s么n hefyd am natur y gweithdai y bu'n eu cynnal gyda'i her gyntaf i blant i ddisgrifio i ymwelydd o blaned arall beth yw barddoniaeth.
Darllenodd hefyd rai o'r cerddi a wnaeth argraff arni.
Bydd enw olynydd Caryl yn fardd plant yn cael ei gyhoeddi ar faes Eisteddfod yr Urdd nos Fawrth yr wythnos hon.