成人论坛

Arwel Roberts 0 Cyfarwyddwr y sioe

Sioe Ysgolion Cynradd

Swyno gyda swyn llenyddiaeth plant drwy'r oesoedd

Llenyddiaeth plant drwy'r oesau o lyfrau Oes Victoria i Lyfr Mawr y Plant a Sali Mali oedd testun, neithiwr, un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd unrhyw Eisteddfod yr Urdd - sioe gyda'r nos y plant ysgolion cynradd.

Ond roedd yn stori a gychwynnodd gyda William Morgan mewn gwirionedd a'i gampwaith yn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg.

Ac yn sgil hanes llenyddiaeth plant ein gwlad cafwyd cip hefyd ar hanes y Gymraeg ei hun mewn cynhyrchiad a gyfarwyddwyd gan Arwel Hughes Roberts, cyn blismon sy'n awr yn brifathro yng Nghyffordd Llandudno.

Ef hefyd yw is-gadeirydd yr Eisteddfod.

Y ddyfais a ddefnyddiwyd i ddweud yr hanes mewn cynhyrchiad uchelgeisiol oedd dilyn dymuniad un ferch fach am stori cyn cysgu gyda golygfeydd o ganu, dawns a drama yn darlunio cyfraniad gwahanol gyfnodau.

Arwel Hughes Roberts sy'n cyfarwyddo'r sioe, Swyn Stori a fydd yn cael ei pherfformio eto heno (nos Fercher).

Dywedodd Arwel mai dyma'r tro cyntaf iddo ef ymgymryd 芒 thasg o'r fath ac iddi droi yn fenter llawer mwy cymhleth nag a dybiodd ar y cychwyn.

'Ond rydw i wedi mwynhau bod yng nghwmni'r plant dawnus yma i'r eithaf. Yn wir, mae ymrwymiad ac ymroddiad yr holl blant o'r dechrau i'r diwedd wedi bod yn anhygoel.

"Mae ganddyn nhw i gyd rywbeth gwahanol i'w gynnig, ac mae cydweithio 芒 nhw wedi bod yn agoriad llygad o un wythnos i'r llall."

Pedwar prif gymeriad sydd i'r sioe gydag Osian a Lliwen o Ysgol Llanddoged, Ffion o Ysgol Ysbyty Ifan ac Ynyr o Ysgol Bro Gwydir yn arwain y cast.

Cyfansoddwyd caneuon gwreiddiol ar gyfer y sioe gan Caryl Parry Jones, Dafydd Iwan ac eraill ac yn rhan o'r t卯m cynhyrchu roedd Ceri Llwyd, Ruth Owen, John Paul Jones, Neil Harris, Rhian Davey, Gwyn Griffiths, Vivienne Wheldon Roberts a Si芒n Vaughan.

''Mae cyfraniad cynifer o bobl wedi bod yn amhrisiadwy. Mae wedi bod yn brofiad gwych ac mae'r gefnogaeth a gefais gan y plant ar hyd y ffordd wedi bod yn werthfawr tu hwnt,'' meddai Arwel.

Lluniau sioe Ysgolion Gynradd yn yr Eisteddfod


成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.