| |
Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd
Ni fyddai Bryn Terfel lle mae o heddiw onibai am Eisteddfod yr Urdd. Ac ef ei hun sy'n dweud hynny.
Pan oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, i gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2005 yng Nghanolfan y Mileniwm, dywedodd: "Fyddwn i ddim yn lle ydw i heddiw oni bai am y cymorth yr ydw i wedi ei dderbyn gan yr Urdd."
Talodd deyrnged i'r mudiad am ddatblygu talentau yng Nghymru.
"Mae wedi ehangu ein gorwelion a datblygu ein personoliaethau drwy ganiat谩u i ni gyfarfod pobol ifanc eraill o bob cwr o Gymru.
"O oed cynnar iawn rydyn ni wedi dod i arfer 芒 chystadlu ar y llwyfan ac ymdopi 芒 phwysau perfformio."
Nid oes amheuaeth fod teyrnged mor hael gan berfformiwr mor flaenllaw yn f锚l ar fysedd y mudiad.
Wrth ymateb i'w eiriau dywedodd Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod a'r Celfyddydau gyda'r Urdd: "Rydyn ni'n wirioneddol ddiolchgar i Bryn Terfel am ei gefnogaeth a'i ddiddordeb mawr yng ngwaith yr Urdd."
Ac un o uchafbwyntiau pob un o eisteddfodau'r Urdd, gan gynnwys yr Eisteddfod ym M么n eleni, yw cystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon yn dilyn cyngerdd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llyn ac Eifionydd, 1998, lle roedd Bryn Terfel yn perfformio.
Mae'n cynnig gwobr o 拢4,000 ac ymhlith yr enillwyr mae, Mirain Haf, Fflur Wyn, Rhian Mair Lewis ac Aled Pedrick.
|
|
|