| |
Medal Ddrama yn chwarae plant
Am y tro cyntaf a'r tro olaf enillwyd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd gan Meinir Lloyd Jones.
Dywedodd Meinir iddi gyfansoddi y ddrama y dywedodd y beirniaid fod ganddi rywbeth o bwys i'w ddweud yn ystod gwyliau hanner tymor o'r ysgol lle mae'n dysgu.
Sgrifennodd hi yn benodol ar gyfer y gystadleuaeth oherwydd gwyddai mai hwn fyddai ei chyfle olaf i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd gan y bydd dros oed cystadlu y flwyddyn nesaf.
Canmolodd Dewi Williams, a oedd yn beirniadu gyda William R.Lewis, sawl agwedd ar ddrama Meinir Gn gyfeirio'n arbennig at y cymeriadau o gig a gwaed a'i fflachiadau o hiwmor.
"Ceir ymdrech dda i greu cymeriadau o gig a gwaed, rhai y gallwn uniaethu 芒 hwy yn eu hing a'u hapusrwydd.
"Mae gan yr awdur glust dda am ddeialog a rhythmau iaith ac mae'r gwaith wedi ei bupro 芒 fflachiadau hyfryd o hiwmor a dywediadau bachog sy'n lliwio'r ddrama.
"Mae gan y dramodydd hwn hefyd rywbeth o bwys i'w ddweud wrthym," meddai.
Dywedodd Meinir wedi'r seremoni ar lwyfan yr Eisteddfod yn cael ei harwain gan yr actor Owain Arwyn, mai digwyddiadau diweddar yn y Dwyrain Canol 芒'i sbardunodd i sgrifennu.
Tri phlentyn yn chwarae yw cymeriadau ei drama sy'n para dros ddeugain munud ond buan iawn y sylweddolir mai cynrychioli gwladwriaethau fel Yr Unol Daleithiau, Prydain ac Irac mae'r plant mewn gwirionedd.
Dywedodd Meinir i'r syniad ddod iddi wrth wylio plant yn chwarae a sylweddoli fod rhyfela yn gymaint rhan o'r chwarae hwnnw.
"Wrth ddisgrifio'r ddrama dywedodd Dewi Williams: "Ar yr olwg gyntaf drama yw hon am dyndra rhwng tri phlentyn - dwy ferch a bachgen - yn chwarae mewn parc. Ond buan y sylweddolir fod hyn yn digwydd yn y flwyddyn 2008 pan yw'r wlad hon bellach dan fygythiad terfysgol.
"Adlewyrchir hyn yn agweddau milain y plant at ei gilydd; mae'r chwarae plant ymddangosiadol ddiniwed yn troi'n fygythiadau a chyhuddiadau sinistr; mae fel petai'r plant wedi'u llygru gan amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth," meddai.
Merch fferm ydi Meinir ac yn athrawes yn Ysgol Gynradd Llannefydd ers dwy flynedd. Yn wreiddiol o Fetws yn Rhos, cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Betws yn Rhos ac yna yn Ysgol Uwchradd Y Creuddyn.
Astudiodd Gymraeg a Ll锚n y Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Bangor, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn y flwyddyn 2001.
Roedd un o'r beirniaid, William R Lewis, yn diwtor iddi yno.
Ymysg ei diddordebau mae Meinir yn rhestru cerdded, nofio, beicio a dosbarthiadau byms a tyms, a chafwyd awgrym ganddi efallai fod testun drama yn y dosbarthiadau hynny hefyd.
"Yr ydym ni yn edrych yn ddigon rhyfedd pan ydym ni wrthi," meddai.
Mae hi hefyd eisteddfotwraig selog a bydd yn cystadlu ar y llwyfan cyn diwedd yr wythnos yn canu alaw werin ac mewn parti.
Ym myd y ddrama dywedodd ei bod yn mwynhau gwaith Meic Povey a Lillian Hellman ond dywed ei bod yn cael blas ar wylio cwmn茂au drama lleol hefyd.
Dywedodd ei bod wrth ei bodd clywed y bydd 成人论坛 Radio Cymru o bosibl yn darlledu ei drama hi a'r dram芒u a ddaeth yn ail ac yn drydedd yn y gystadleuaeth.
Catrin Dafydd o Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth, Ceredigion, ddaeth yn ail eleni, gyda Bethan Williams o Aelwyd Bethel, Arfon, Eryri, yn drydydd.
|
|
|