成人论坛

Y Gymraes sy'n rasio hysgis yng Nghanada

  • Cyhoeddwyd
Mali SionFfynhonnell y llun, Mali Sion

"Eh?! Ti'n siarad Cymraeg? Yng nghanol Canada?!"

Yn un o ardaloedd mwyaf anghysbell Canada yw'r lle diwethaf y byddech chi'n disgwyl clywed y Gymraeg, ond dyna ddigwyddodd i un Gymraes sy'n gweithio yno gyda ch诺n sled yn ddiweddar.

Roedd yr arbenigwr iaith, Ari Smith, yn Saskatchewan yn ffilmio boblogaidd am yr iaith leiafrifol frodorol, Cree, pan ddaeth ar draws Mali Sion o Benmachno, a dechrau siarad Cymraeg gyda hi, er mawr syndod iddi! Mae Ari yn enwog am ei ddawn am ddysgu ieithoedd ledled y byd, ac wedi synnu pobl yng Nghaerdydd gyda'i Gymraeg mewn fideo arall.

Ond beth mae Cymraes yn ei wneud draw yn eira Canada yn y lle cyntaf?

Ffynhonnell y llun, Mali Sion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Golygfa gyfarwydd i Mali Sion y dyddiau yma

O'r llwyfan i'r eira

Yn 2018 roedd Mali Sion yn un hanner o'r ddeuawd swynol Serol Serol ac yn perfformio ar lwyfan Penwythnos Mwyaf 成人论坛 Radio 1 yn Abertawe. Bellach, mae hi wedi codi ei phac a gadael Cymru - am ychydig, beth bynnag - ac wedi teithio draw i Ganada am antur.

A hithau 芒 blynyddoedd o brofiad o weithio gyda ch诺n, bachodd ar y cyfle i barhau 芒 hynny gan gael swydd 芒 chwmni teuluol sydd yn rasio ac addysgu am g诺n rasio 芒 sled, neu mushing, yn Saskatchewan.

Ffynhonnell y llun, Mali Sion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mushing' ydi rasio gyda chi a sled

"O'n i'n gwybod mod i isho mynd allan i 'neud rhwbath, ac o'n i'n gwybod mod i isho gneud rhwbath efo c诺n, so 'nes i seinio'n hun i fyny ar wefan lle ti'n gallu cysylltu efo pobl ar draws y byd sy'n chwilio am weithwyr," eglurodd wrth Aled Hughes ar 成人论坛 Radio Cymru. "A 'nes i ffeindio'r job yma, a tua mis wedyn, o'n i'n bwcio fy fisa a'n ffleits i draw yma.

"O'dd o reit sydyn, ond dwi'n falch nes i gymryd y cam yma."

Gweithio gyda ch诺n

Ar y fideo YouTube, mae Mali i'w gweld yn llywio sled sydd yn cael ei dynnu gan g诺n drwy'r eira. Alaskan racing huskies ydi'r c诺n mae hi'n gweithio gyda nhw, eglura, sydd fel arfer yn hysgi wedi ei groesi gyda math arall o gi, fel migli neu German pointer er mwyn cael y cyflymder gan mai c诺n rasio ydyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Mali Sion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mali yn gweithio gydag Alaskan racing huskies

Ynghyd 芒 chael gweithio mewn maes sy'n ei diddori, mae hi hefyd yn cael teithio'n helaeth gyda'r swydd, a chael dod i 'nabod yr ardal anferthol o'i chwmpas:

"Yn Saskatchewan dwi'n byw, a 'da ni'n trafaelio lot i Alberta ac i Manatoba i wneud tours efo'r ysgolion. Does yna ddim lot o bobl yn gwybod am Saskatchewan - tir amaethyddol ydi lot ohono fo a thir pobl brodorol."

Ac er ei diffyg gwybodaeth am yr ardal a'r grefft o musho c诺n, roedd Charlie, perchennog y cwmni, yn fwy na hapus i'w chyflogi.

"Mae 'na gymaint i'w ddysgu allan yma o ran y c诺n. Y peth mwya' pwysig oedd y profiad o weithio efo c诺n, ac ma' gen i hynna. O'dd o'n reit awyddus i nghael i yma, ac i ddysgu ffordd newydd o fod efo c诺n a'u gweithio nhw, yn hytrach na jyst edrych ar eu holau nhw."

Ffynhonnell y llun, Mali Sion
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mali wedi gwneud llawer o ffrindiau blewog ers mynd i Saskatchewan i weithio

Awchu am antur

Mae Mali wedi bod draw dros y d诺r ers dechrau Rhagfyr, ac er ei bod hi wedi gobeithio aros yn hirach, bydd hi'n symud ymlaen ym mis Ebrill oherwydd ei bod hi wedi bod yn 'aeaf reit wael', a does yna ddim llawer o eira wedi bod yno. Ond parhau 芒'i hantur yw'r gobaith, meddai:

"Trafaelio o gwmpas Canada a gweld be' arall sydd ar gael i fi. Dwisho mynd draw i Calgary, a thrio cael swydd unai yn Calgary ei hun neu yn mharc cenedlaethol Banff, a gweld sut eith hi o fan'na. Dwisho trio defnyddio'r fisa am ddwy flynedd allan yma, a gawn ni weld.

"Mae popeth am y lle yn reit fawr - mae o fel Cymru ond yn masif! Ond dewch allan yn yr haf - mae hi reit oer yma yn y gaeaf..."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig