成人论坛

Cyhuddo gyrrwr o achosi marwolaeth dyn ar yr A470

A470Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clywodd y llys fod y car wedi taro ymyl y ffordd a throi drosodd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 51 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth dyn arall mewn gwrthdrawiad ar yr A470.

Bu farw Lee Sullivan, 48 oed o Aberhonddu, yn y digwyddiad rhwng y dref a'r Storey Arms ar 22 Mawrth eleni.

Mae Craig Thomas - hefyd o Aberhonddu - wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal, tra ar gyffuriau.

Clywodd Llys Ynadon Merthyr Tudful fod car Ford Focus wedi taro ymyl y ffordd a throi drosodd.

Bu farw Mr Sullivan, oedd yn deithiwr yn y car, yn y fan a鈥檙 lle.

Mae Mr Thomas hefyd wedi'i gyhuddo o yrru heb drwydded nac yswiriant.

Cafodd ei ryddhau ar fechn茂aeth ddiamod a bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 18 Hydref.

Pynciau cysylltiedig