|
|
|
| | © trwy garedigrwydd Prifysgol Cymru |
| | |
|
|
Hanes y Ty
Mae Ty Gregynog yn cael ei grybwyll gyntaf yn y 12fed ganrif, ac o'r 15fed ganrif ymlaen hwn oedd plasty'r teulu Blayney, gan symud i'r teulu Hanbury Tracy yn 1795. Ailadeiladwyd y ty tua diwedd y 1830'au gan Charles Hanbury Tracy, pensaer amatur Hampton Court, ac yn ddiweddarach yr Arglwydd Sudeley. Wedi hynny bu'r eiddo dan ofal sawl un hyd nes i'r stad gael ei rannu a'i werthu yn 1914. Prynodd y teulu Davies y ty a'r tir a oedd yn weddill hyd nes i'r chwiorydd Davies brynu'r stad drwy eu hawl eu hunain yn 1920, a'i wneud yn gartref parhaol iddynt eu hunain yn 1924.
Mae'n ymddangos mai adeilad Jacobeaidd pren tal yw Gregynog, ond o edrych arno'n fanylach fe welwch chi siâp unionlin yr adeilad a'r casin concrit. Mae'r rendrad cerfwedd 'du a gwyn' yn ddynwarediad o dai ffrâm goed lleol y Gororau. Nid yw'n glir pwy fu'n gyfrifol am gynllunio'r adeilad presennol, ond y gred yw y gall Henry Hanbury Tracey - wyr Charles - fod wedi dylanwadu ar y defnydd a wnaed o goncrit fel deunydd adeiladu, gan ei fod yn frwd iawn ynglyn â'r deunydd a oedd yn beth 'newydd' ar y pryd.
© trwy garedigrwydd Prifysgol Cymru
|
Cadwyd rhai o elfennau'r ty gwreiddiol a'u hailosod yn yr eiddo newydd. Mae'r ystafell Blayney yn cynnwys paneli parlwr bwyta sy'n dyddio o'r 17fed ganrif ac yn cynnwys y dyddiad Mehefin 22, 1636, a thybir eu bod wedi eu cynhyrchu'n wreiddiol gan gerfwyr o'r Iseldiroedd. Mae'r paneli'n arddangos arfbais y teulu â'r arwyddair 'Virtutis comes invidia' - 'Cenfigen yw cydymaith rhinwedd', ac eiddo eu hynafiaid tywysogaidd Cymreig.
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|