clip fideo o raglen 成人论坛 Cymru 'First Resort', yn cynnwys gwybodaeth am y Guildhall, Abertawe a Neuadd Brangwyn.
Troslais - Malcom Parry
"Adeiladodd Syr Percy Thomas hefyd y Guildhall newydd, y Neuadd Gyngerdd a'r Llysoedd Barn. I gyd yn cael eu cynnwys yn adeilad harddaf Abertawe.
"Mae hwn yn gampwaith, Moderniaeth gynnar ar ei orau. Un o'r adeiladau gorau o'i gyfnod yn y DU. Ac wrth gwrs, canlyniad cystadleuaeth bensaernïol.
"Lloriau trafertin patrymog, bwâu uchel, nenfydau â phaneli, a llathenni o farmor Swedaidd. Llinellau clasurol glân, ond cyffyrddiadau lleol hyfryd hefyd. Mae'r manylion yn dathlu sefydlwyr Llychlynnaidd y dref.
"Dyma Neuadd Brangwyn, un o leoedd enwocaf Cymru. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau a chynadleddau. Newidiodd y pensaer ei gyfrannedd er mwyn cynnwys y murluniau hyn gan yr artist Frank Brangwyn. Yn wreiddiol wedi eu cynllunio ar gyfer Ty'r Arglwyddi, maen nhw'n cynrychioli'r Ymerodraeth. Cawsant eu gwrthod. Mae'n debyg iddyn nhw brofi i fod yn rhy ffraeth i'r Arglwyddi, ond maen nhw'n llawn lliw, yn gorlifo o egni, ac yn llawn bywyd."
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.