Main content

Sut i wrando ar Radio Cymru

Gallwch wrando ar Radio Cymru lle bynnag y boch yn y byd. Ac mae 'na sawl ffordd i wneud hynny.

Radio FM

Mae Radio Cymru'n cael ei ddarlledu ar donfeddi o 92 i 105 FM ar draws Cymru, gan gynnwys y brif drosglwyddyddion canlynol:

93.1 MHz (Gorllewin Cymru)
93.5 MHz (Canolbarth)
93.7 MHz (De Orllewin Cymru)
94.2 MHz (Gogledd Cymru)
96.8 MHz (De Cymru)
104.2 MHz (De Ddwyrain Cymru)
104.3 MHz (Gogledd Ddwyrain Cymru)
104.6 MHz (Canolbarth)
Rhestr lawn o holl

Teledu Digidol Daearol (Freeview)

Mewn ardaloedd sydd â derbyniad Freeview, gallwch ddod o hyd i Radio Cymru ar sianel 712 (yng Nghymru yn unig). Gwiriwch eich bod yn gallu derbyn Freeview ar wefan .

Teledu Lloeren Digidol

Mae Radio Cymru ar gael ar draws gwledydd Prydain ar loeren digidol, ar sianel 0152 (Sky) neu 715 (Freesat). Ni fydd angen tanysgrifiad na cherdyn gwylio i wrando ar yr orsaf.

Arlein

Mae gwasanaeth ar yn rhoi cynnig arall i chi wrando ar raglenni Radio Cymru hyd at wythnos ar ôl y darllediad gwreiddiol. Gallwch hefyd .

Gwrando Eto

Er mwyn gwrando ar raglenni a gafodd eu darlledu dros y saith diwrnod diwethaf, chwiliwch yn ein hamserlen. System awtomatig sydd yn rhoi rhaglenni ar lein. Mae’r system yma yn golygu eich bod yn gallu gwrando eto ar bron bob un o’n rhaglenni.

Noder: am resymau hawlfraint, nid ydym bob amser yn gallu ffrydio rhai rhaglenni chwaraeon, ond rydym yn ceisio sicrhau fod y rhan fwyaf o’n rhaglenni ni ar gael ar lein cyn gynted â phosib.


Ffonau Symudol / Ffonau Clyfar a thabledi

Os oes derbynnydd FM ar eich ffôn symudol neu ffôn clyfar, gallwch dderbyn 成人论坛 Radio Cymru mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru. Ewch i’n er mwyn gweld beth yw’r donfedd FM lle ydych chi.

Os ydych yn gwrando ar y radio ar eich ffôn clyfar drwy’r rhwydwaith 3G neu wi-fi, gallwch wrando ar Radio Cymru yn fyw ar-lein o’n tudalen hafan neu drwy ddefnyddio Ap iPlayer Radio – sydd ar gael ar gyfer iPhone / iPad a dyfeisiau Android.

Gallwch hefyd gwrando eto at raglenni o’r 30 diwrnod diwethaf ar ffonau clyfar a thabledi Apple (iOS) ac Android.

iPhone ac iPad (iOS)

Gallwch wrando ar ein rhaglenni yn fyw a gwrando ar raglenni o’r 30 diwrnod diwethaf ar eich iPhone ac iPad ar fersiwn symudol ein (drwy ddefnyddio porwr gwe iPhone neu iPad) ac ar .

Dyfeisiau Android

Gallwch wrando ar ein rhaglenni yn fyw a gwrando ar raglenni o’r 30 diwrnod diwethaf ar eich ffonau clyfar a thabledi Android ar fersiwn symudol ein (drwy ddefnyddio porwr gwe) ac ar .

Efallai y bydd eich cwmni ffôn yn codi tâl arnoch chi am wrando ar y radio drwy ddefnyddio’r rhwydwaith data ar eich ffôn symudol neu dabled.


Radio digidol DAB

Os nad ydych chi yn gallu derbyn 成人论坛 Radio Cymru neu 成人论坛 Radio Wales ar DAB - Gwnewch yn siwr fod antena eich set radio wedi ei ymestyn i’r eithaf, yna ail-diwniwch ("auto-tune" neu "auto-scan")

Ceir mwy o wybodaeth ar:

Neu am wybodaeth bellach ffoniwch ni ar 03703 500 700. Ni ddylai galwad gostio mwy na rhifau arferol sy’n dechrau gyda 01 neu 02