Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion
Gwylliaid Cochion
'INDEPENDENT', Ionawr 27
'Liz Truss flew by private jet to Australia at a cost of £500,000 to taxpayers'.
Roedd taith jet ymhell i Awstralia
am hanner miliwn yn ffôl,
ond mi fyddai 'di bod yn fargen -
tasai ddim wedi hedfan yn ôl.
Alun Cefnau 8.5
Arglwydd de Grey
(Pennawd yn y Mirror: The party’s over, Boris)
Os ydyw’r parti drosodd
Chwi, Saeson, meddw, ffôl,
Mae’n amser clirio’r Eton Mess,
Mae Guto Harri’n ôl!
Steffan Tudor 8.5
Cynigion ychwanegol
Man gets genetically-modified pig heart in world-first transplant (成人论坛 Ionawr 2022)
‘Rol oes o ham a gamon stêcs
yn twchu gwaed y g诺r
Ar ôl ei op, er parch i’r hwch,
fe droes yn bur lyiseuwr.
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw neu lusenw unrhyw dîm rygbi
Gwylliaid Cochion
Ai r'un 'Wales' i'r werin wiw
Yw'r waedd dros Gymru heddiw?
Rhiain Bebb 8.5
Arglwydd de Grey
Prydain fawr bob awr o’i bod
Sy’n mawrhau lliwiau’r Llewod.
Arwel Emlyn Jones 8.5
Cynigion ychwanegol
Ar grys, mae gan tîm Cymru graith.
Coffad o’n brad mewn brodwaith
Gylch y byd mae gweilch uwchben
a lygada'r lygoden.
(Clwb Rygbi Bro Ffestiniog sydd wedi colli bob un o’u Gemau Cyngrair)
Go brin y bod hogie Bro
yn caru cael eu curo.
Yma, ni haedda’r oes hon
Y loes o loddfa’r Gleision.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae'n debyg mai amser a ddengys’
Gwylliaid Cochion
O wyneb cloc oriog yr eglwys
i'r ffôn sydd yn mhoced fy nhrowsus
nid ydyw yn sioc,
yn wir ar bob cloc,
mae'n debyg mai amser a ddengys.
Ifan Bryn Du 8.5
Arglwydd de Grey
Mae’n debyg mai amser a ddengys
O ba radd ma gwreiddyn rhen Boris,
A fydd o’n blodeuo
Ta fydd o yn gwywo
Mae’n debyg mai amser a ddengys.
Tomos Gwyn Williams 8
Cynigion ychwanegol
Mae’n debyg mai amser a ddengys
ai natur ei gosb oedd yn ddilys;
ynteu sleifio yn rhydd
wna ar ddiwedd y dydd
o’i grogi o goeden gwsberis.
Does bosib rhyw ddydd nad ymddengys
y Meuryn o'i stydi gyfforddus.
Fydd ei wallt o yn wyn?
S'ganddo wallt erbyn hyn?
Mae'n debyg mai amser a ddengys.
Fe hoffai Machynlleth gael datrys
pryd trwsir y cloc mawr oedrannus.
Gyda'r bysedd i gyd
wedi stopio r'un pryd
mae'n debyg mai amser a ddengys.
4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ci neu C诺n
Gwylliaid Cochion
I Osian Morris, y waliwr
(Pennau c诺n yw'r cerrig hirgrwn a geir yn ardal Dolgellau/Ardudwy.)
Ddoe'n falch, heddiw'n fylchau,
pennau c诺n sy'n lapio'n cae’n
ddi-lun, yn 'sgyrnygu'n sgwâr -
crwm ei wast nes ceir mistar
ar y wal i'w rheoli.
Yn y cae cwyd un pen ci
o'i laswellt i'w ailosod;
rhoi pen ar ben nes eu bod
i gyd yn glyd yn eu gwlâu
yn huno; lle'r oedd pennau
ansad mae wal unionsyth,
ben ar ben - yn wal am byth.
Tegwyn Jones 9.5
Arglwydd de Grey
Dilyn
Tyred! Fe awn i redeg
Strydoedd diflas dinas deg,
O hwrli bwrli y byd,
Bow-wowian o boen bywyd;
Iesu grist y mae Sue Gray
Yn mynnu meio inne’,
Yap-yap-yap yw s诺n popeth
A byw yn barti o beth.
Rwyf ben-ffwlbart y parti,
O Dilyn futt dilyn fi,
Tipydi-d诺, save Top Dog
A wnaed yn Brif Weinidog.
Arwel Emlyn Jones 9
5 Pennill ymson triniwr neu drinwraig traed
Gwylliaid Cochion
Dau gi bach 'di mynd i'r coed,
esgid newydd am bob troed,
ond 'r'ôl colli un o'u 'sgidie
roedd rhyw gloffni yn eu camre.
Wedi gwneud archwiliad traed
dyma'r argymhelliad wnaed -
os heb glymu eu careie
ddyle c诺n ddim gwisgo 'sgidie
Rhiain Bebb 8
Arglwydd de Grey
Mae gennyf bedwar clinic
Yn llawn adnoddau drud
Rwy’n cynnig y triniaethau
Y gorau sy’n y byd..
Mae’r gwaith yn alwedigaeth
Yn sicr mae’n fy ngwaed,
Mi fyddai’n nhad ‘di blesio
Rwy’n dilyn ôl ei draed.
Huw Dylan 8.5
Cyngion ychwanegol
Fy hunllef mwyaf innau
Yw rhoi y droed ar y bwrdd
A slipio gyda’r clipars
A thorri’r bawd i ffwrdd,
Ac wedyn chwilio’r droriau
Ar ôl y weithred ffôl,
Gan droelli’n sydyn y Pritt stick
A sticio’r bawd yn ôl.
PC yw’r 成人论坛 heb os,
Mae gludoedd da a gwael,
A chofiwch ludwyr bodiau traed
Fod llawer glud ar gael.
Mewn byd o hysbysebu
Cynigaf slogan Pritt:
“If you lose your toe, stick it back on,
And then get on with it.”
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Sut i Ddathlu Dydd G诺yl Dewi
Gwylliaid Cochion
Frodyr a chwiorydd ymunwch yn y sbri
a gwnewch y pethau bychain a glywsoch gennyf i .......
Am ddiwrnod ymhob ysgol bydd dathlu gan ein plant
wrth liwio eu Cymreictod, i gofio am ryw sant.
Bydd dreigiau cochion meddal gan Gylch Meithrin Llan-di-nam
a hyd 'noed rai gan Boris i daflu mas o'i bram.
I ginio ceir cawl cennin, nid ymborth sant mae'n si诺r,
oherwydd deiet Dewi oedd dim ond bara a d诺r.
Teisen gri a bara brith a weinir amser te,
os d'ych chi'n hoffi cyrens, bydd popeth yn ocê.
Am saith cynhelir swper y Cylch Cinio mewn lle crand,
nid 'bar snack' fydd 'na heno ond gloddest efo band.
A'n hwyrach bydd sawl aelod a'i ddici bô yn gam,
a'i genhinen wedi gwywo, ond fydd o'm yn cofio pam.
I orffen ceir yr Anthem a lleisiau pawb yn groch,
ond gofiwch chi yr ymdrech lew a wnaed gan Sion Coed Coch?
Daw'n amser mynd tuag adre, ac wrth gerdded lawr y stryd
bydd côr o Ddafydd Iwans yn canu - Den ni yma o hyd ..........
Tra gwneir y pethau bychain hyn am undydd yn ein bro
mae'n bryd gwneud pethau llawer mwy, bob dydd o'r flwyddyn .....sbo
Rhiain Bebb 8.5
Arglwydd de Grey
Anodd yn wir ydyw dathlu
Gwyl Ddewi a chofio am wr
Na fwytai ond chydig o genin
Ac yfed ond llymaid o ddwr.
Ac wrth gwrs sant ydoedd Dewi
A’I grefydd yn wir oedd ei fyd
Rhaid felly dathlu ei ddiwrnod
Mewn ympryd a gweddi o hyd.
Ac os ydi hynny’n ddigalon
I rai sydd yn hoff iawn o wledd
Bydd angen newid ein nawddsant
Os am win neu gwrw neu fedd.
Ond eto mae yna obaith
Os yw’r hyn a glywir yn wir,
Bod Boris am arddel Dewi
A holl seintiau Enlli cyn hir.
Ond cyn I neb orgynhyrfu
Bod Cymru yn bwysig I’r llo,
Er mwyn cael esgus am barti
Fe wnaiff unrhyw reswm y tro.
Huw Dylan 8.5
7. Llinell ar y pryd
Gwylliaid Cochion
Nid yw ein dydd Gwyl Dewi
Yn lol fel eich jiwbali!!!
Ifan Bryn Du 0.5
Arglwydd De Grey
‘Nid yw ein Dydd G诺yl Dewi’
Yn wyl i'n llywodraeth ni
Arwel Emlyn Jones 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Gwylio
Gwylliaid Cochion
(ar ôl llofruddiaeth Ashling Murphy tra’i bod allan yn loncian)
Mae’n gwylio adar, yn gwylio’r
tywydd, yn gwylio’r pridd yn c’nesu,
a’r eirlysiau brau yn gwthio’u pennau plyg
o’r deilbridd llaith.
Ac mae’n gwylio cynffonau awyrennau’n
croesi’r awyr. Yn gwylio lloerennau
yn smotiau golau yn y nos, yn gwylio’r
smotyn ar y map sy’n ei thywys adre’n
saff.
Ac mae hi’n lygaid i gyd, yn
gwylio’i hun yn nrych y byd
trwy lygaid pawb, yn gweld y gwylwyr
yn ffenestri’r siopau a drychau’r
ceir, pob llwynog, pob baril gwn.
Mae hi’n gwylio, ei llygaid
yn goch goch goch.
Grug Muse 10
Arglwydd de Grey
Cyrchu at erchwyn.
gan ymbil na fydd y menyg rwber yn celu’r tynerwch
Wrth gwpanu papur sidan brith ei llaw.
Mwmial trwy fwgwd,
“Fe ffoniodd eich merch,
Mae’n anfon ei chariad.”
Craffu am gryndod dan yr amrannau brau,
Neu gysgod gwên ar wefusau glas.
Hi ddylai fod yma
yn cael adrodd hanesion,
ail greu eu hatgofion,
a murmur cysuron.
Ond dieithryn sy’n gwylio,
yn gwmni’n y gwyll;
gan ddyfalu stori’r einioes
sy’n anadlu’n llafurus,
a chlustfeinio am y rhugn olaf
cyn syllu’n syfrdan ar y mudandod mawr.
Eleri Jones 9.5
9 Englyn: Dolen
Gwylliaid Cochion
Deddf uno 1536
Un ddolen o’r gadwyn a ddalia’n dynn
dy Brydeindod, dyma
ni’n addfwyn yn dy noddfa
gan nad ym yn ddigon da.
Gwion Aeron 8.5
Arglwydd de Grey
Un lawes ag arni flewyn – un dafn
O waed oer ar bostyn,
Hualuau ‘mhob manylyn
Yn eu dal cyn gwasgu’n dynn.
Huw Dylan 9
Cynigion ychwanegol
Mae’n drên sy’n mynd ar unwaith – i orsaf
Hen sgyrsiau y noswaith,
Awn ein dau, pob cof yn daith,
Drwy y rh诺d ar y rhwydwaith.