Cerddi Rownd 2
1 Trydargerdd: Apêl am Gyfraniadau
Beirdd Myrddin
Un mwgwd gwrth-gemegol a phedair
ffedog ymbelydrol,
un arf rhag nwyon nerfol,
ga’i’r rhain ac ugen bog rol?
Ann Lewis 8.5
Tir Iarll
O’ch troli llawn cywilydd
 bwyd ar eich aelwydydd,
a allech sbario tùn neu ddau
I’r rhai sy’n bancio’u bwydydd.
Aneirin Karadog 8
Cynigion ychwanegol
Stocpeilo sy wedi’i wahardd
er na chlywodd Tir Iarll am hyn,
er mwyn iddynt ennill heno
lle braf yw t欧 bach Ceri Wyn.
Ma’ Boris ‘di cau McDonalds
a phob Nandos yn y wlad.
Plis! Anfonwch swper ataf,
‘sdim blas ar goginio fy nhad!
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bôr’
Beirdd Myrddin
Aethom yn wên i’r neithior
- ni, ein babi a thwelf bôr.
Garmon Dyfri 8.5
Tir Iarll
Er lleied gwerth ei ddwedyd,
mae'r bôr yn gyngor i gyd.
Tudur Dylan Jones 9
Cynigion Ychwanegol
Galwa’i fussuss Boris Bach yn ‘Bôr’.
Mae’n enw byrrach.
Mewn côr y mae’r bôr yn byw
yn hwylio cân y rhelyw.
‘Na neis! Hunan ynysu
‘da’r bôr necst dôr a’i bwdl du.
Â’i ddibwyll gwyn mewn pwyllgor,
un â barn ar ddim yw’r bôr.
“ONE IN FOUR A BORE” yw’r beirdd;
pa rif ymysg ein prifeirdd?
Yn y byd mae wastad bôr
ac angof yw ei gyngor.
Dyna bôr munudau’n byd
a’u hofan sydd yn glefyd.
O’r bôr daw sbardun i’r bardd
arbrofi, a chreu’i brifardd.
Nid bôr pawb ydy Boris -
Ei braidd ryw ddydd dalant bris.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’r elyrch ym mhlu’r adar gleision’
Beirdd Myrddin
A’r elyrch ym mhlu’r adar gleision
Fe aeth hi’n gyfeillach go fodlon,
Er syndod, yn syth
Daeth cyw bach i’r nyth
Fflamingo pêl blw eitha’ tirion.
Ann Lewis 8
Tir Iarll
Mae’r Elyrch ym mhlu’r Adar Gleision;
A’r Hwntws ym mhlu’r Gogleddogion;
Mae bois Castellnewydd
Yn ymladd â’i gilydd...
On’d 欧n ni yn bobol gymodlon!
Emyr Davies 8
Cynigion Ychwanegol
A’r elyrch ym mhlu’r adar gleision,
Daeth Donald â’i ‘peace keeping mission’,
Nawr skinheads Cwm Bwrla
A wna’r Ayatollah
Wrth ganu ‘Gw欧r Harlech’ drwy Ganton.
‘A’r elyrch ym mhlu’r adar gleision’,
Wel, dyna beth yw llinell wirion.
Ni fedrai Sol Bamba,
Nac Ayew na Dhanda
Droi honno yn limrig o safo
.
Mae’r elyrch ym mhlu’r adar gleision
Am nad oes un gêm i’r selogion,
Pob un yn ei nyth
A ninnau’n eu plith,
Mae’r gofid am Covid yn greulon
A’r elyrch ym mhlu’r adar gleision
Mae Alun yn haeddu cysuron.
Wrth hunan-ynysu
Nid ydyw’n rhy ffysi
Am adar- mae’n trydar ei gwynion.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfrifoldeb
Beirdd Myrddin
'Put on a proper suit' - geiriau David Cameron wrth Jeremy Corbyn
Ond un siwt amdana'i sydd,
un dyner, hardd ei deunydd.
Un â'i phwyth yn wych o ffôl,
yn ddyran egwyddorol.
O'i hedafedd daw heddwch
a thaer yw'r wên ddaw o'i thrwch.
Mae gobeth yn ei brethyn,
nid rhyw siwt pawb tros ei hun -
gweld rheswm mewn botwm bach,
rhoi ffydd mewn defnydd dyfnach.
Er mor frau yw'i hedau hi
nyddwyd fy nycnwch drwyddi.
Aled Evans 9.5
Tir Iarll
(I’r ddwy wyres, Greta a Martha)
Â’i chwaer fe ddoi i chware
gyda’u miri’n llenwi’r lle,
a mynd, mynd yn fwrlwm iau
i ganol holl deganau
Nain a Taid, cyn mynd o’n t欧
a gwên fawr, ‘Gawn ni…fory?’
Yn awr, a hithau’n fory,
a Nain a Taid yn y t欧,
er holi, ‘Gawn-ni?’… ar gau
i’w gwên mae’r bocs teganau,
a heddiw’r peth anodda’
i Daid a Nain yw dweud ‘Na.’
Tudur Dylan Jones 10
5 Triban beddargraff cyhoeddwr neu gyhoeddwraig y canlyniadau pêl droed
Beirdd Myrddin
B’nawn Sadwrn ganol gaea’
Yn East Fife neu yn Forfar
Bu hwn a’i lais yn hynod driw
Nes llais ei Dduw a Alloa.
Garmon Dyfri 8.5
Tir Iarll
Yn fedrus gwnâi ef adrodd
Terfynol sgoriau milo’dd,
Ac felly rhown ar feddrod Wil:
‘One-nil’ i’r tryc na welodd!
Emyr Davies 9
Di-sgôr Tresaith, Llanwnnen,
Pump Hewl yn drech na’r Dafen
Ac nawr fe ddof i’r ffeinal sgôr
- mae ‘nhymor wedi gorffen.
Fe rifodd yn ddefodol
Pob gêm, pob gôl yn ddeddfol
Ond yna daeth y sgorfwrdd mawr
Ac awr ei sgôr terfynol
Fe gyfrodd hwn laweroedd
A mesur hynt ein timoedd
Ond nawr mae yntau yn y man
Sy’n datgan sgoriau’r nefoedd.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Estyniad
Beirdd Myrddin
Estyniad…y weithred o roi â’r llaw (Y Geiriadur Mawr)
O’r ‘lean-to’ rwy’n ‘sgwennu fy neges a minnau’n unigrwydd fy nghell
I esbonio pam rwy ‘di ynysu gan hyderu y daw dyddiau gwell.
Rwy’n cael bara a d诺r wedi’u gweini wrth y drws bob bore a hwyr
Bum yma am bron i bythefnos am imi gamgymryd yn llwyr ..
y geiriau a glywais gan Boris; y siars a roddodd i ni
‘Rhaid ichi ddilyn y camau a welsoch ac a glywsoch gen i’.
Estyn llaw i’r sawl oedd mewn angen, dyna fyrdwn ei neges a’i gri,
A dyna beth wneuthum yn dalog gan gynnig fy noniau yn ffri.
‘Na chi’r gochen sy’n byw gyda’r plismon sydd mor unig pan fydd ar batrol
A’r flonden sy’n afradus â’i ffafrau - a’i merch a ddaeth ar ei hôl.
Gwnes yn siwr mod i’n golchi fy nwylo gan adael pob un gyda gwên
Ond doedd mam y plant acw heb ddeall, (mae’n gallu bod twtsh bach yn fên).
Ond na nid y cofid a’i felltith sy’n fy nghadw i rhag galw draw,
Er nid hawdd yw dwy lathen o bellter pan fyddwch am estyn eich llaw.
Yr hwrlyn sy’n araf ddiflannu yw’r rheswm mod i yma mor glyd -
Pwy wyddai fod dialedd menywod fel feirws yn para gyhyd ….
Bryan Stephens 8.5
Tir Iarll
Ga’i ddiwrnod ‘to, O Feuryn?
Mae’r beiro’n hesb ers meitin;
Mae feirws yn fy laptop i
A’r ci ‘di bwyta’r englyn.
Plis ga’i estyniad, Ceri?
Fy awen drodd yn jeli;
Mae’r hen ddyslecsia’n mynd yn waeth -
Rwyf felly’n gaeth i’r gwely.
Ga’i ‘marfer y llefaru
A minnau’n ymynysu?
‘Sdim cynulleidfa heblaw’r gath
A a’th yn syth i gysgu.
Ga’i amser ychwanegol
I sgorio goliau geiriol?
Tydi yw’r meuryn gorau’n fyw
O clyw fy ymbil barddol...
‘Trwy ras, cei ddiwrnod ecstra...’
Reit, cwrw a segura!
‘Anghofia’r tasgau’ rwyf yn dweud,
A’u gwneud y funud ola’!
Emyr Davies 9
7 Ateb Llinell ar y Pryd
Beirdd Myrddin
Ai fy mai i yw fy mod
yn neb y’ch chi’n ei nabod? 0.5
Tir Iarll
Ai fy mai i yw fy mod
yn deddfu i ganslo’r Steddfod?
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Chwarae
Beirdd Myrddin
Ar hyd y stryd mae stwrian
s诺n 'dim' yn byddaru'r byd,
pob pêl sy'n driw i'r awel,
pob un beic yn segur, glyd.
Ac yn y parc yn hercian,
siglen wag sy'n teimlo cryd,
a sgerbwd hen ffrâm ddringo
heno'n noethach fyth ei fyd.
Iard yr ysgol sy'n esgus
mai'r haf ddaeth eto’n ei bryd,
gan wadu'r faneg fechan
fu'n aros cymar cyhyd.
Lowri Lloyd 9.5
Tir Iarll
... Mae rhai gemau ’mond yn gweithio gyda dwy / dau.
Cyn codi’r mur doluriau a chreu cell o ochor cae,
gardd oedd hwn i gwrdd o hyd, tir mob-mob dyddiau mebyd,
tshaso, cwato, dyna’r cof, pedlan i’r fan a fynnof;
yn Sunland Park roedd acen ein dwy iaith, haul ein dwy wên.
Ac os daeth un ryw noson â llafn drwy ein gemau llon,
nos arall daeth penseiri i hawlio ’nôl ein hwyl ni,
a mentro, drwy binco bach, roi i’r maes wedd rymusach.
Yn alaw’r am-yn-eilio, yn suo swil ein si-so,
mae iaith sydd yn drech na mur, delwedd sy’n drech na dolur:
mesurau cydamserol cân ein teeter-totter-wall.
Fesul cwpled sigledig,
yn fôr o wên,
fôn i frig,
fy chwaer fach chwaraeaf i’n rhydd a dedwydd ...
os doi-di.
Mererid Hopwood 10
9 Englyn: Haint
Beirdd Myrddin
(The Fall of Rome, W H Auden)
 rhyfyg codwyd Rhufain ond heno
try’r tonnau yn filain,
y glaw’n diwel tros gelain
a bro’r aur yn bentre brain.
Aled Evans 9.5
Tir Iarll
Ar y fan, fe ddaw stôr o faeth i’n drws,
Ond drwy’r holl gynhaliaeth,
A’r byd i gyd gartre’n gaeth
Mae newyn am gwmnïaeth.
Emyr Davies 10
Cynigion Ychwanegol
Ein rhieni oedrannus, anwyliaid
Ar bob aelwyd fregus...
Heibio daeth awel reibus
I’w moyn nhw, fel y mân us.
“Dere wir, rhaid galw draw!” Anghofiais
Fod fy nghyfarch difraw
Yn estyn am wn distaw,
Yn eu lladd wrth ysgwyd llaw