Main content

Chwilio (Dydd Bydd Hapus, 23 Ionawr)

Chwilio
(Dydd Bydd Hapus, 23 Ionawr)

O Ionawr a鈥檌 ddyffrynnoedd
awn 芒 chanfod cyfrinach enfys,
un a鈥檌 odre鈥檔 chwardd o belydrau,
a hanfod ein gwynfyd
i鈥檞 gael yn ei gawg aur.

Ohono tynnwn
heulwen o lawenydd,
un pelydryn fel perl,
yn dlws yng nghledr dy law;
hwn yw Taliesin ein hinon,
a phob addewid o hyd yn newid,
yn pefrio hyn o aeaf.

Yn flodau gardd, yn chwarddiad,
yn her cyhyrau,
yn chwarae m芒n, yn gytgan, yn g么r,
yn sgwrs araf y dafarn,
yn eiriau ar gerdded,
yn gymuned,
yn gerdd.

Ac awn,
ymadawn 芒鈥檙 cawg aur,
ond daliwn yn dynn am belydryn bach,
gan wybod
nad yw鈥檙 hanfod wrth droed yr enfys.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...