Main content

Hywel Gwynfryn

Mae Hywel Gwynfryn yn darlledu'n fyw yn eich bro chi gyda Radio Cymru - Fan Hyn! Mae ganddo hefyd ei raglen ei hun ar foreau Sul.

Dechreuodd Hywel Gwynfryn ei yrfa ddarlledu yn 1964 yn cyflwyno Heddiw, rhaglen ddyddiol ar y teledu.

Yn 1968, gwnaeth Hywel gyflwyno'r rhaglen bop Cymraeg gyntaf erioed, Helo Sut Da Chi? Gan nad oedd unrhyw recordiau Cymreig ar y pryd, efe oedd un o'r arloeswyr yn y diwydiant recordiau pop Cymreig, wrth i grwpiau ddechrau creu, ac wrth i'r ddiwydiant dyfu.

Pan welwyd lansiad Radio Cymru, VHF yn 1977, ei rhaglen gyntaf oedd Helo Bobol, wedi ei chyflwyno gan Hywel.

Yn ogystal 芒 Helo Bobol, fe gyflwynodd ei raglen sgwrsio ar y teledu Rhaglen Hywel Gwynfryn.

Yn ystod ei amser hamdden, fe ysgrifennodd bedwar pantomeim, yn cynnwys Jiw Jiw Jeifin Jenkins, yn ogystal 芒 ffilm ar gyfer S4C.

Bellach mae llais y cawr o F么n i'w glywed yn cyfrannu i amrywiol raglenni trwy gydol y dydd. Bydd Hywel yn ymweld 芒g ardaloedd gwahanol ac yn dod 芒'r holl gyffro a'r hwyl o ddigwyddiadau ac achlysuron yn fyw i weddill gwrandawyr Radio Cymru. Dyw teithio ddim yn beth newydd i Hywel serch hynny. "Pan nes i gychwyn fel darlledwr ar deledu n么l ym 1964, roeddwn i'n mynd ar leoliad i ffilmio o amgylch Cymru a thu hwnt felly mae'r cylch wedi troi'n llawn," esbonia'r newyddiadurwr profiadol. "Dwi wrth fy modd yn cyfarfod pobl, ar eu tomen eu hunain, ac fe fydd hi'n gr锚t gallu d诺ad a s诺n Cymry'n siarad am Gymru i mewn i'r gwahanol raglenni."