In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Ac os ydych chi ffansi clonc gydag Eleri a Daf, cofiwch bigo draw am baned tra bod y ddau'n ymweld a'ch hardal chi yn ystod Taith Dolig 2009.
Cliciwch yma i gael cipolwg tu 么l i'r camera
> Cliciwch yma i weld yr oriel luniau
Eleri a Daf ar Daith Nadoligaidd
Wrth i bobl ar hyd a lled Cymru ddechrau meddwl am drimio'u tai, gosod y goeden Nadolig a choginio'r gacen ffrwythau mae Eleri a Daf yn pacio'u bagiau am wythnos ar y l么n.
Bydd y ddau gyflwynydd yn teithio o'r de i'r gogledd er mwyn darlledu eu rhaglen yn fyw o gaffis amrywiol ac mae 'na gryn edrych ymlaen at y daith.
"Bydd hi'n gr锚t cael cwrdd 芒 phobl sy'n byw yn ardaloedd Cross Hands, Aberystwyth, Pwllheli, Caernarfon a Dinbych wrth i ni alw draw am sgwrs," esbonia Daf.
Mae Eleri am wneud y mwyaf o'r cyfle i sgwrsio a chael ysbrydoliaeth wrth bobl sy'n fwy trefnus na hi!
"Mi fydda i yn gofyn i bwy bynnag sy'n galw draw i'n gweld ni am syniadau ar gyfer f'anrhegion 'dolig achos dwi ddim wedi rhoi digon o feddwl iddyn nhw leni," esbonia Eleri.
"Bydda i eisiau tips gan ddynion am anrhegion i ddynion a merched am anrhegion i ferched. Bydda i hefyd yn cynnig tips i ddynion am beth i brynu i ferched er mwyn osgoi cwmpo mas ar ddydd Nadolig!"
Fe ddechreuodd Daf ar y paratoadau Nadolig yn gynnar eleni wrth iddo yntau, gyda help ei deulu, addurno'r t欧 cyn iddo adael am y daith.
"Dwi'n edrych ymlaen at edrych ar yr addurniadau Nadolig wrth i ni deithio o'r de i'r gogledd er mwyn gweld os yw gweddill Cymru wedi 'neud cystal sbloets 芒 ni," dywed Daf. "Fe fydda i'n cymharu coed Nadolig drwy'r wythnos!"
Cofiwch alw draw am sgwrs gydag Eleri a Daf os fyddwch chi yn yr ardal!Dydd Llun 7 Rhagfyr
Dydd Mawrth 8 Rhagfyr
Dydd Mercher 9 Rhagfyr
Dydd Iau 10 Rhagfyr
Dydd Gwener 11 Rhagfyr
Lluniau Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.
Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.