³ÉÈËÂÛ̳

Archifau Ionawr 2010

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 19:05, Dydd Gwener, 29 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Ar ddydd Gwener - ail fyw'r wythnos drwy trwy flasu rai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys â ni.

  • Yng Nghymru rydym ni'n creu digon o gelfyddydwyr a phobl broffesiynol, dalentog, ond prin yw'r tân sydd yn y boliau a phrin yw'r bobl fel Hywel Teifi sydd â'r gallu i herio'r hyn ry'n ni ei weld o'n cwmpas a'i ddadlennu am yr hyn yw e, boed yn lwfrdra neu daeogrwydd nodweddiadol - Lefi Gruffudd yn y Western Mail.
  • Teimlaf ei bod hi'n amser da i mi ollwng yr awenau, ac edrychaf ymlaen at gael mwy o amser gyda fy nheulu yn ôl yn y gogledd - Cefin Roberts yn ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
  • Dydw i jyst ddim yn deall. Rwy'n mynd i siopau eraill yn fy mhyjamas a dydyn nhw'n dweud dim Mae gen i bar del o byjamas efo eirth a phengwins arnyn nhw - Elaine Carmody, 24 oed, wedi i Tesco ar gyrion Caerdydd wahardd pobl sy'n siopio yn eu pyjamas.
  • Mae' ddiangen, yn afiach ac yn lledaenu jyrms - Paul Flynn AS am yr arferiad o ysgwyd llaw.
  • Pe byddwn i'n 75 fyddai ddim cymaint o wahaniaeth gen i. Fe fyddwn i'n dweud, 'Cymrwch fi'. Ond rwy'n 34. Mae fy mhlant yn ddeg, saith ac 17 mis. Dydi fy merch fach newydd ddim wedi'i geni hyd yn oed. Rydw i eisiau'u gweld nhw i gyd yn tyfu - John Hartson yn wynebu triniaeth bellach yn ei frwydr yn erbyn canser.
  • Mae bron i hanner y rheiny sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn byw mewn tlodi difrifol - Andrew Chalinder, mudiad Achub y Plant yng Nghymru.
  • . . .llais parchus, corff ystwyth dawnswraig a hunanfeddiant llwynogaidd - y New York Times yn disgrifio perfformiad cyntaf Catherine Zeta -Jones ar Broadway.


Naw mis arall Caryl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 13:43, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Pan gyhoeddwyd nofel ddiweddaraf Caryl Lewis tybiodd mwy nag un fod a wnelo'r Naw Mis yn y teitl rywbeth a chael babi.

Allen nhw ddim fod wedi bod ymhellach ohoni gan mai naw mis cwbl wahanol sydd dan sylw yn y nofel arallfydol hon.

Darllen gweddill y cofnod

Dyfyniadau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:25, Dydd Sadwrn, 23 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Ar ddiwedd wythnos - ail fyw'r saith diwrnod diwethaf trwy flasu rhai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys â ni.

Darllen gweddill y cofnod

Tristwch tas wair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:13, Dydd Gwener, 22 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Ni fu gwell Miss Marple erioed ar y sgrin fawr na Margaret Rutherford. Yn wir, nes i'r ³ÉÈËÂÛ̳ ddod o hyd i Joan Hickson fu dim gwell Miss Marple mewn unrhyw gyfrwng.

Ac er i ddwy Miss Marple newydd gael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma methu â gwella ar yr anhygoel Hickson wnaethon nhw fel y dditectyddes ddiniwed ac ofnus ei hymarweddiad ond yn gleddyf daufiniog o athrylith a dur dan yr wyneb.

Darllen gweddill y cofnod

Bananas Robin

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 16:27, Dydd Iau, 21 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

I'r rhai hynny ohonom a oedd o gwmpas adeg cychwyn S4C yr oedd Robin Jones, a fu farw dros y penwythnos diwethaf, bron a bod yn un o'r teulu.

Ef, Sian Thomas a merch arall fyddai'n dweud wrthym beth ddeuai nesaf ar y sianel achos yr adeg honno yr oedd y cyflwynwyr i'w gweld ar y sgrin.

Darllen gweddill y cofnod

I'r diawl a'r gasgen gwrw

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:14, Dydd Iau, 21 Ionawr 2010

Sylwadau (2)

Y gorau y gellid ei ddweud am fuddugoliaeth yr Urdd yn y frwydr i gael gwerthu gwinoedd a chwrw ar faes Eisteddfod Genedlaethol y mudiad yn Llannerchaeron yw mai buddugoliaeth dechnegol yw hi.

Fel y clywyd ar Taro'r Post ddoe, i gyfyngiadau y ddeddf drwyddedu y mae'r Urdd yn ddyledus.

Darllen gweddill y cofnod

Pwy piau'r eira?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 17:27, Dydd Sadwrn, 16 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae awduriaeth cywydd Yr Eira y cyfeiriais ato ddoe wedi troi yn destun rhywfaint o drafodaeth.

Darllen gweddill y cofnod

Dyfyniadau'r wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 18:13, Dydd Gwener, 15 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Ar ddydd Gwener, cofio'r wythnos drwy rai o'r pethau doeth a doniol a ddywedwyd gan wahanol bobl. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a glywsoch chi.

Ffwrdd a ni ta - dyma rai'r wythnos hon:

Darllen gweddill y cofnod

Mewn powlen o eira . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:35, Dydd Iau, 14 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Ddoe yr oedd y diweddar Ioan Bowen Rees ymhlith y rhai hynny yr oedd dydd ei eni yn cael ei nodi ar raglen gynta'r dydd ar Radio Cymru.

Fe'i disgrifiwyd yn syml fel awdur a bardd ond yr oedd yr arbenigwr ar lywodraeth leol a anwyd yn Nolgellau Ionawr 13 1929 yn dad i Gruffudd Rhys prif leisydd y Super Furry Animals ac yn fynyddwr o fri hefyd.

Darllen gweddill y cofnod

Pint a seibiant

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:14, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Difyr gweld mai drama gan awdur sydd yr un mor enwog am y bylchau yn ei ddialog ag yw am y geiriau sydd ynddi yw cynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru.

Byddai rhai yn dadlau i Harold Pinter wneud y saib ddramatig yn gelfyddyd ynddi ei hun ac fe all cynulleidfaoedd Y Gofalwr ddisgwyl digon ohonyn nhw.

Darllen gweddill y cofnod

Dwyn i gyfrif

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:53, Dydd Llun, 11 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

Oherwydd yr eira welais i ddim faint o sylw a roddwyd yn y papurau enwadol Cymraeg i awgrym offeiriad yn Swydd Efrog ei bod yn iawn i'r tlodion dan rai amgylchiadau ddwyn lluniaeth a bwyd o siopau mawrion.

Efallai na roddwyd sylw o gwbl i'r hyn a ddywedodd y Tad Tim Jones ar un o'i bregethau cyn y Nadolig.

Sôn yr oedd o'n benodol am anffodusion yn cael eu gollwng yn rhydd o garchar a'r nawdd i'w cynnal nes iddyn nhw ddod o hyd i waith a chyflog yn sownd mewn rhyw dâp coch yn rhywle a hwythau heb geiniog i gynnal eu hunain.

Ar eu cythlwng felly, byddai pob math o demtasiynau yn eu hwynebu a phrysurodd y Tad Jones i'w cynghori i beidio a dwyn oddi ar bobl ac i beidio â lladrata o dai gan fod hynny yn drosedd yn erbyn yr unigolyn.

"Fy nghyngor i fel offeiriad Cristnogol yw i ddwyn o siopau. Dydw i ddim yn cynnig cyngor o'r fath oherwydd fy mod yn meddwl fod dwyn yn beth da nac ychwaith am y tybiaf ei bod yn weithred ddiniwed gan nad yw y naill na'r llall," meddai.

Ond beth mae dyn i'w wneud pan fo hi wedi mynd i'r eithaf arno? Meddai'r offeiriad:

"Fe fyddwn yn gofyn ichi beidio â dwyn oddi ar fusnesau bychain teuluol ond oddi ar fusnesau cenedlaethol mawrion, gan wybod y bydd y gost yn cael ei throsglwyddo i'r gweddill ohonom ar ffurf prisiau uwch," meddai.

"Fe fyddwn yn gofyn hefyd ichi beidio â chymryd mwy na'r hyn sydd ei angen," ychwanegodd - a pheidio a dal ati i ddwyn am fwy nag sydd raid.

Cafodd sylwadau'r offeiriad deugain oed sy'n gwasanaethu plwyfi Sant Lawrence a Santes Hilda sylw ar hyd a lled y byd dros y Nadolig gyda sawl sylwebydd am ddwyn yr offeiriad i gyfrif.

Yn enwedig y rhai hynny sy'n mynnu nad oes yna'r fath beth a throsedd fach a throsedd fawr - dim ond trosedd.

Ond oedd o'n iawn?
A ellir cyfiawnhau rhai troseddau ar sail angen ac ar sail beth all y sawl y troseddir yn ei erbyn ei fforddio?
Mae'n wybyddus, beth bynnag, fod archfarchnadoedd yn prisio nwyddau gyda cholled trwy ddwyn yn rhan o'r pris.

Ac am bob un a gondemniodd y sylw yr oedd digon a welai rywbeth yn apelgar yn y syniad o elwa ar yr ariannog a'r mawr ei elw wrth i unigolyn droi'n rhyw fath o Robin Hood iddo ef ei hun.

Y bobl hynny, mewn dyddiau fu, na fyddai wedi gweld dim o'i le mewn rhoi tro yng nghorn ffesant teulu'r plas neu gyllell yng ngwddf dafad ffermwr cefnog liw nos i fwydo'i deulu tlawd.

Sawl un wedi'u pacio'n heidiau am Awstralia ddyddiau fu heb fendith unrhyw offeiriad.

Beth feddyliwch chi - oes yna rai troseddau sy'n haeddu cael eu goddef oherwydd yr amgylchiadau y'u cyflawnir?

Ynteu ydi hon yn gors rhy beryglus i Gristion feddwl mentro iddi?

Chwilio am eira

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:52, Dydd Gwener, 8 Ionawr 2010

Sylwadau (3)

Daeth ymholiad i law yn gofyn tybed faint o leoedd sydd yna yng Nghymru gyda'r gair 'eira' yn rhan o'u henw.

Meddai Bethan - sy'n siwr o fod yr unig un sy'n chwilio am eira y dyddiau hyn:

Darllen gweddill y cofnod

Rhagor o beli

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:22, Dydd Iau, 7 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

"Lle gwell i ddod o hyd i eiriau a dywediadau yn ymwneud ag eira na llyfr Twm Elias, Am y Tywydd," meddai Lowri yn dilyn fy sylwadau y bore ma.

Darllen gweddill y cofnod

Peli eira

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 08:10, Dydd Iau, 7 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Ar ddiwrnod fel hwn, yn gaeth yn y tÅ·, gartref, beth gwell i'w wneud na throi at y llyfrau i chwilio am gyfeiriadau at eira.

A thaflu ambell i belen atoch chi.

Darllen gweddill y cofnod

Cofio 'Angel' o Lydaw

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:37, Dydd Mercher, 6 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Wrth inni gyfrif ein colledion yma yng Nghymru ar ddechrau blwyddyn fel hyn death newyddion hefyd am farwolaeth cyfaill i Gymru yhn Llydaw.

Bu farw Bernard Le Nail yn 63 oed fore Rhagfyr 5 2009.

Disgrifiodd fy hen gyfaill Gwyn Griffiths, Llydawegwr o fri ac awdur llyfrau am y wlad a'i phobl, ef fel "cyfaill ac edmygwr mawr o Gymru ac un o ffyddloniaid y Gyngres Geltaidd". Meddai Gwyn wrth dalu teyrnged iddo:

Darllen gweddill y cofnod

Cofio Hywel Teifi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 13:39, Dydd Mawrth, 5 Ionawr 2010

Sylwadau (0)


Trawodd rhywun yr hoelen ar ei phen pan ddywedodd mai camp fawr Hywel Teifi Edwards oedd tynnu'r 'Hi' allan o 'History' a'n gadael gyda'r 'story'.

Ac fel y bywiocaf a'r mwyaf ei arabedd o'n haneswyr diwylliannol adroddai y straeon hynny mewn ffordd cwbl ddihafal.

Hywel Teifi

Gyda'i eiriau cyntaf byddai'n bachu cynulleidfa ac yn ei chadw wedyn wrth i'r geiriau, yr ebychiadau a'r arabedd naturiol lifo.

Gallai bentyrru gwybodaeth heb ymddangos ei fod yn gwneud hynny a gallai hefyd ar yr un pryd grynhoi mewn cneuen ei neges. Dim rhyfedd ei fod yn un yr oedd y cyfryngau mor awyddus i droi ato am sylw am bob math o bynciau o hanes yr Eisteddfod Genedlaethol i bêl-droed.

Enillodd ei blwyf fel darlledwr diddan ar faterion llenyddol nôl yn y Chwedegau yn adolygu ar raglen radio yn ymwneud â llyfrau gan danio ac ennill edmygwyr o'i adolygiad cyntaf un.

Un Nadolig byrdwn ei sylwadau oedd yr holl alwyni o 'Optrex' y bu'n rhaid iddo wrthynt i'w lygaid ddygymod a'r holl lyfrau ddaeth allan oll gyda'i gilydd!

Yr oedd hyn yn ystod ei gyfnod yn ddarlithydd adran efrydiau allanol. Cyfnod pryd y bu'n cyfoethogi ac yn cael ei gyfoethogi o'i ymwneud â phobol achos ysgolhaig y dyn cyffredin yn ei festri capel a'i neuadd bentref oedd Hywel Teifi Edwards yn hytrach na'r tyrau ifori a chyda mwy nag ychydig o arlliw Bob Owen Croesor genhedlaeth ynghynt yn mwynhau - ac angen cynulleidfa.

Yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol, wedyn, yn anadl einioes yn ogystal â maes astudiaeth iddo ac yr oedd yn gredwr cryf yn rhinweddau seremoniol y Brifwyl.

Dyna pam yr oedd yn un gefnogwyr selocaf seremoni y Cymry ar Wasgar fel yr arferid ei galw a chododd ei lais fwy nag unwaith o weld y seromoni honno yn cael ei glastwreiddio dros y blynyddoedd diwethaf tra byddai ef yn annog ei gwneud yn fwy yn hytrach nag yn llai o basiant.

Hoffai holl theatr y digwyddiad hwn a seremoniau eraill yr Eisteddfod.

Yn y gyfrol Cawr i'w Genedl mae'r diweddar W M 'Moc' Rogers yn cael ei ddyfynnu yn disgrifio Hywel Teifi Edwards fel "caleidosgop" o gymeriad.

"Symudwch y bocs ewinfedd a fydd dim dal beth welwch chi na dim dal ychwaith beth glywch chi," meddai.

Oedd, yr oedd pob math o batrymau a diddordebau a hynny mewn Cymraeg ar ei mwyaf bywiog, naturiol, a'i mwyaf cyhyrog.

Does ond angen troi i wefan Gwales Cyngor Llyfrau Cymru i weld rhychwant ei gyfraniad a'i ddiddordebau drwy'r nifer o'i lyfrau sydd ar werth - gyda'r hiraf ar y safle.

Ac yng nghefn Cawr Cenedl mae'r bennod ar ei lyfryddiaeth yn un ddalen ar hugain o hyd gan gychwyn yn 1955 gydag ysgrif Pysgod yng nghylchgrawn Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth Y Ddraig - Dragon y bu'n olygydd Cymraeg iddo.

Parhaodd y gweitrhgarwch tan y dyddiau diweddaraf un.

Hanes Hywel Teifi

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.