Fe gychwynnodd y daith ben bore yn Ysgol Gynradd Dinas Mawddwy lle'r oedd y plant yn spotia' i gyd. Neb yn dioddef o'r frech goch, 'dwi'n falch o ddeud, ond pob un plentyn wedi gwisgo dillad yn llawn spotia' lliwgar ac wedi gorchuddio'r arth fach felen efo arian parod er mwyn chwyddo cronfa Pudsey
Yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, roedd pob plentyn wedi dŵad i'r ysgol mewn gwisg ffansi, ac wedi eu gwisgo fel môr ladron, gofodwyr, y tylwyth teg, a chowbois, a'r athrawon yn gwisgo eu gwisgoedd ffansi arferol - Armani, Gucci a Primark.
Ond stori fawr y dydd oedd stori Goronwy Evans a'i dîm yn ardal Llambed.
Maen nhw wedi bod wrthi yn casglu ers wyth mlynedd ar hugain ac wedi casglu.....faint?
Wel, tae nhw wedi casglu £10,000 yn flynyddol, dyna i chi £280,000. Ond tydi'r ffigwr yna ddim yn agos at y cyfanswm. Maen nhw o fewn £75,000 i gyrraedd miliwn o bunnau.
Llongyfarchiadau iddyn nhw a diolch i bawb am bob ceiniog a gasglwyd i gronfa Plant Mewn Angen.
Mae hi'n wythnos cyri yr wythnos nesa, oni bai eich bod chi'n rhywun fel fi sydd wrth ei fodd efo cyri, ac yn cael un yn wythnosol. Yna, mae hi'n wythnos cyri bob wythnos.
Felly i le 'da chi'n meddwl yr es i am gyri'r noson o'r blaen? Lle ydi canolfan cyri De Cymru?
Wrth gwrs - Cwm Twrch! I fod yn fanwl gywir i Gwm Twrch Uchaf yr es i i gyfarfod un o eiconau'r genedl, Maharaja'r Maes Rygbi - Clive Rowlands.
I gychwyn fe gawson ni popadam neu ddwy, puri corgimychiaid i ddilyn, ac yna dau brif gwrs wedi ei henwi ar ôl y dyn ei hun.
"These are Mr Clive Specials," meddai Abdul, wrth eu gosod yn ofalus ar y bwrdd o flaen y Maharaja.
Ac mi oedda nhw'n spesial hefyd, yn llawn darnau o gyw iâr o'r tandoori, yn gymysg
a nionod a pherlysiau, reis a bara naan. Noson i'w chofio a chwmni heb ei fath.
"Ry ni moyn hybu Cymreictod yn yr yr ysgol."
Llais Rhian Gardiner ar y ffôn o Ysgol Gymraeg Bryntawe.
Felly i fewn i'r fan a fi yn gynt na Bruce Wayne yn dringo i mewn i'w Batmobile, a gyrru draw i'r ysgol i roi hwb i'r syniad ar Radio Cymru.
Synnau cyfarwydd iawn oedd yn cyfarch hen rapiwr fel fi pan gyrhaeddais i. Swn
Ed Holden, gynt o grwp rapio'r Gennod Drwg, yn cynnal gweithdy efo'r plant.
Mae Menter Iaith y cylch hefyd yn cefnogi syniad 'Sgol Swn, a'r bwriad ydi cynnal mwy o weithgareddau tebyg yn y dyfodol.
Fe gewch chi glywed y stori a'r sŵn heno ar raglen yr hen rocar Geraint Lloyd ar Radio Cymru rhwng hanner awr wedi chwech ac wyth.
Rhwng trefi Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli y gorwedd Cwm Gwendraeth, yn ne ddwyrain Sir Gaerfyrddin. Ond mae'n bwysig cofio fod 'na ddau Gwm Gwendraeth - y Fach a'r Fawr.
Y naill yn cynnwys pentrefi bychain fel Porth y Rhyd, Llangyndeyrn, Llandyfaelog, Mynydd y Garreg a Chydweli, lle ganwyd fy nhad. A'r llall yn cynnwys pentrefi mwy fel Pontyberem, Pontiets, Ponthenri a Thrimsaran.
Ac fel wyr Dafydd Evans y crydd yn 10 Bridge St, Cydweli, mae 'na groeso i mi bob amser yn y Cwm - a hwnnw'n groeso cynnes, fel y croeso ges i yn ddiweddar yng Nghaffi Cynnes, Pontyberem.
Yno 'roeddwn i i gyfarfod Don Williams a Haydn Scaife ac i gael golwg yn eu cwmni nhw ar arddangosfa ddiddorol iawn yn llawn dogfennau a hen luniau sy'n adlewyrchu gorffennol cyffrous a disglair Cwm Gwendraeth.
Gyda'r nos fe es i draw i sinema Cross Hands i weld dangosiad hanesyddol o ffilm am fywyd Lloyd George ddaeth i'r fei ar ôl 76 o flynyddoedd o fod ar goll.
Ac os ewch chi ymhellach yn ôl na hynny, i'r 19 ganrif, fe gewch chi esboniad am darddiad yr enw Cross Hands.
Wel, mae 'na ddau a deud y gwir. Gewch chi ddewis.
Mae rhai yn dweud y byddai carcharorion yn cerdded o garchar Caerfyrddin i garchar Abertawe, a'u dwylo mewn cadwynau, ac yn mynd drwy'r pentref. Esboniad arall ydi fod ceffylau'r goets fawr yn cael eu newid yma - ac felly yn newid dwylo.
Mae yn cychwyn ei daith Ddydd Llun yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
O nagydi, tydio ddim ! O ydi, mae o!
Stori Barti Ddu ydi thema'r panto, sy'n ddewis addas iawn o gofio fod eleni wedi bod yn flwyddyn dathlu cyfraniad T Llew Jones i lenyddiaeth plant.
Pan alwais i draw yng Ngholeg y Drindod lle'r oedd y cast yn ymarfer, 'roedd y cynhyrchydd Dafydd Hywel wrth y llyw!
Ac fe fydd Barti a'i fôr-ladron yn hwylio heibio Neuadd Brynaman, Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon, Theatr y Werin Aberystwyth, Neuadd Dwyfor Pwllheli, Theatr y Pafiliwn Rhyl, Y Stiwt yn Rhos, Theatr Y Parc a Dar Treorci, Theatr Elli, Llanelli, a Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin.
Jôc bantomeimaidd i gloi....Beth sydd yn felyn ac yn beryglus?
Ateb: Cwstard yn llawn o siarcod.
Ydi! Mae'n dymor y Panto!
O'r chwith i'r dde Wyn, Erica a Beynon - tair o'r merched sy'n gweithio yn y siop yn Rhydaman sy'n rhoi cefnogaeth i bobol ifanc ac anghenion addysg arbennig.
Dyna arwyddocâd yr enw 2activ8. Cyfle i bobol ifanc ac anghenion arbennig i wneud cyfraniad gwerthfawr i'r gymdeithas.
Mae Erica wedi dychwelyd i Rydaman ar ôl byw yn Ne Affrig am saith mlynedd ar hugain, a Wyn wedi dychwelyd i'w thref enedigol ar ôl cyfnod yn Llundain fel athrawes, ac mae'r ddwy yn gofalu am blant gyda Syndrome Downs.
Mae'r siop yn gwerthu nwyddau sydd wedi cael eu gwneud gan y bobol ifanc, ac yn cynnig croeso cynnes i unrhyw un sydd am baned o de a chlonc.
Felly os oes 'na unrhyw un yn Rhydaman fyddai'n hapus i helpu yn y siop, fe fyddai'r merched yn falch iawn o'ch gweld chi.
Gyda llaw, mae'r coffi yn arbennig o dda - yn enwedig yr ail gwpaned!
Y bore o'r blaen mi fues i'n wilia ac yn lapan efo rhai o drigolion Cwmafan a Phort Talbot oedd wedi bod yn wilia am oria' (80 awr i gyd) efo Eurof Williams, oedd yn recordio tafodiaith yr ardal ar ran .
Fe fydd y sgyrsiau i'w clywed ar raglen Nia fore Mercher rhwng hanner awr wedi deg a deuddeg o'r gloch ar Radio Cymru.
Nôl yn y saithdegau Eurof oedd rheolwr y grŵp pync Cymraeg cyntaf -Y Trwynau Coch. Ac yn yr wythdegau, fo oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r grŵp Bando i lwyfannau Cymru.
Un o'r bobol a ddaeth draw oedd Stan Jones. Mae ei gyfraniad i'w gymdeithas a diwylliant y cylch yn fawr.
Treuliodd ddwy flynedd o dan ddaear fel Bevin Boy, ac fe fu'n athro cerdd yn yr ardal gan ysgrifennu llawlyfr ar sut i chwarae'r recorder.
Gyda llaw, yn wahanol i'r Trwynau Coch, fasa Stan Jones ddim yn 'mynd i'r capel mewn Levis' gan ei fod o'n aelod parchus o gapel y Roc, Cwmafan.
Os 'da chi am gael copi o Gryno Ddisg tafodiaith Cwmafan a Phort Talbot ewch i .
Gwartheg a defaid a lloiau, a llond lle o gymeriadau. Dyna oedd yn fy nisgwyl i ym Marchnad Rhuthun. Ac fe ges i gwmni Emyr Lloyd, un o'r ocsiwniars. Gyda llaw
mae 'r arwerthiant nesa' ddydd Mercher yr 11eg o Dachwedd - 90 o wartheg godro
a pheiriannau hefyd ar ran Mr B Roberts Glanclwyd Ganol, Bodfari .
Yr wythnos nesa' fe fyddai'n ymweld a Chwm Afan, Rhydaman, Brynaman, Pontyberem, Cross Hands a mannau gorllewinol eraill, ac os 'da chi am i mi ddod acw i adlewyrchu'n genedlaethol beth sy'n digwydd yn lleol yna anfonwch e bost i hywel@bbc.co.uk Yn enwedig os 'da chi'n cynhyrchu sioe Nadolig eleni yn y capel, yn y neuadd neu'r ysgol rhwng Rhagfyr 14eg a Rhagfyr 18fed. Dyna pryd y bydda i ar daith o amgylch Cymru o gynhyrchiad i gynhyrchiad.
Os oes ganddoch chi sied ddiddorol - oherwydd ei siap neu ei chynnwys fe fyddai
Geraint Lloyd wrth ei fodd yn cael ei hanes. Fe alwais i heibio sied John Price ym Machynlleth lle mae o'n gwneud coronau Eisteddfodol. Rhyw saith mlynedd yn ol y symudodd John a'i wraig o Corris i Fachynlleth, a mae nhw'n deud mai prynu sied wnaeth John, ond fod na dÅ· ar werth hefyd! Dros y blynyddoedd, mae John wedi gwneud 37 o goronau, a'r nesa fydd Coron Eisteddfod Powys y flwyddyn nesa'
Felly, os oes ganddoch chi sied ddiddorol, cysylltwch efo Geraint Lloyd neu fi hywel@bbc.co.uk
Dwylo pwy 'di rhain. Dwylo sy'n medru'ch gwella chi. Dwylo sy'n cynhesu'r corff ac yn lladd y boen.
Dwylo Gwen Lloyd, Glandulas Mawr, Pantperthog. Mae hi'n cynnig therapi Reiki.
Ystyr Rei ydi'r byd o'n cwmpas, ac egni bywyd ydi Ki, dull o wella sydd a'i wreiddiau yng nghrefydd Bwdistaid Tibet.
Ar ol hanner awr efo Gwen 'roedd hi wedi llwyddo i ddarganfod fod gen i wendid yn fy mhenglin chwith, a fy nhroed dde.Ond ddudodd hi ddim byd am fy mhen i!
Sut mae Reiki yn llwyddo i'ch gwella chi?
'Dwn i ddim. A 'dwn i ddim pam fod Acwbigo (acupuncture) yn llwyddiannus, ond fe alla i dystio i'r ffaith ei fod o. Nol ym 1982 fe benderfynais i roi'r gorai i smocio. Er mwyn hwyluso'r broses fe es i am driniaeth abwbigo. Fe saethwyd stydsen i mewn i fy nglust, a bob tro 'roeddwn i eisiau sigaret, roeddwn i i fod i rwbio'r stydsen a byddai hynny'n anfon neges i'r ymennydd i ddweud wrtha i nad oeddwn i angen sigaret. Mae'r stydsen wedi hen ddisgyn allan - ond saith mlynedd ar hugain yn ddiweddarach -'dwi'n ddifwg.
'Does na ddim pwynt gofyn i chi lle mae'r cloc yma, mae o mor enwog a Big Ben yn Llundain. Ond pam oedd rhaid cael cloc mor grand yn y dre?
I ddathlu penblwydd Charles Stewart Vane-Tempest. Ac efo enw fel'na, mae'n amlwg na 'doedd o ddim yn perthyn i Gymdeithas Lenyddol y dre! Yn wir, nid un o Fachynlleth oedd o. Yr unig gysylliad a'r dre oedd fod ei dad Ardalydd Londonderry o Blas Machynlleth.
Gyda llaw mewn café yn y dre mae 'ma fyrgyrs cartre ar werth.
Enw'r byrger-BIG MACH!