Bethel, Brains a Barberellas
Dw i'n dechrau deall sut oedd Bill Murray yn teimlo yn "Groundhog Day". Dw i ddim yn gwbwl sicr p’un ai Rhodri neu Ieuan sydd yn rôl Punxsawtaney Phil yn y ddrama hon ond dw i'n saff mai fi yw'r un sy'n dioddef profiad arteithiol y dyn tywydd oedd yn gorfod ail-fyw'r diwrnod hyd dragwyddoldeb. Er mwyn gallu aros yn gall fe wnâi sgwennu am rywbeth arall!
Un o brofiadau rhyfedd heneiddio yw gwylio adeiladau y mae dyn wedi eu gweld yn cael eu codi yn cael eu dymchwel.
Pan oeddwn i'n grwt roedd yr ardal o gwmpas Bridge Street a Mary Anne Street yng nghanol Caerdydd yn gymysgedd o hen adeiladau Fictoraidd. Yno roedd Bethel, capel teulu Mam, yr hen Ebeneser lle roeddwn yn mynd i'r Ysgol Sul a thafarn y "Greyhound" lle ces i (a bron pawb arall o'n genhedlaeth i yng Nghaerdydd) fy mheint cyntaf. Nid nepell i ffwrdd roedd y "New Moon Club" lle'r oedd Iris Williams a Cherddorfa Jas Cymru yn arfer perfformio a Barberella's lle'r oedd Hywel Gwynfryn yn cynnal ei ddisgos Cymraeg wythnosol.
Fe ddiflannodd y cyfan yn y Saithdegau. Nawr mae'r adeiladau a gymerodd eu lle, cymysgedd di-nod o feysydd parcio a siopau, hefyd wedi mynd. Lle fel'na yw dinas. Does dim byd llawer yn para.
Trwy gyd-ddigwyddiad wrth i dalp o'r brifddinas ddiflannu mae dau gynllun gwahanol i agor amgueddfeydd yn croniclo hanes y ddinas ar fin cael eu gwireddu. Fe fydd un, "Amgueddfa'r Bobol," wedi ei lleoli yn yr hen lyfrgell ar yr Ais tra bydd y llall yn canolbwyntio ar ardal y dociau yn adeilad y "Pierhead" sy'n ganolfan ymwelwyr i'r cynulliad ar hyn o bryd.
Dw i'n gobeithio na fydd yr Amgueddfeydd hyn yn anwybyddu un elfen bwysig yn hanes Caerdydd sef ei Chymreictod. Am ryw reswm neu'i gilydd y rhan honno o hanes y ddinas sy'n tueddu mynd yn angof wrth i arddangosfeydd a llyfrau ganolbwyntio ar yr elfen Wyddelig ym mywyd y Ddinas a chymuned egsotig Tiger Bay.
Y gŵr sydd wedi gwneud fwyaf i groniclo hanes Caerdydd fel dinas Gymreig a Chymraeg yw'r cyn AC Owen John Thomas. Diolch i'w waith ef rydym yn gwybod, er enghraifft, bod siopau fel David Morgan a James Howells yn hysbysebu am weithwyr rhugl yn y Gymraeg hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mai'r Gymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o addoldai'r ddinas tan yn gymharol hwyr yn yr un ganrif.
Am ryw reswm mae dinasyddion Caerdydd a'r Cymry Cymraeg fel ei gilydd yn tueddu anwybyddu'r hanes hwnnw gan lyncu mytholeg nad yw'r ddinas mewn rhyw ystyr yn perthyn i Gymru o gwbwl. Nonsens yw hynny a dylid achub ar y cyfle i brofi hynny.
SylwadauAnfon sylw
Gwir iawn. Awgrymais wrth Fenter Iaith Caerdydd (neu rhywrai eraill) y gellid cyhoeddi llyfryn wedi ei seilio ar waith ymchwil Owen John.
Mae'r myth mai dinas Saesneg bu Caerdydd erioed yn anghywir. Mae'n fyth, fel dwedais di Vaughan, sy'n cael ei lyncu gan Gymry Cymraeg. Caiff hefyd ei hyrwyddo gan rai sydd ag agenda wleidyddol wrth-Gymraeg.
Y gwir amdanni yw mai'r Gymraeg yw'r unig iaith sydd wedi ei siarad yn ddi-dor yng Nghaerdydd ers dros dwy fil o flynyddoedd. Mae wedi goresgyn Lladin a Ffrangeg-Normanaidd ac mae'n ennill tir ynghannol mor o Saesneg yn y ganrif hon.
Syniad gwych Sion, yn enwedig gyda'r Steddfod Genedlaethol yn dod flwyddyn nesa.
Mae Caerdydd yn frith o enwau brodorol megis Maes-y-coed, Ton-yr-ywen, y Geubalfa, Maendy, Mynachdy, a.y.y.b. Mae llyfr Peter Finch 'Real Cardiff' yn llawn gwybodaeth, a hefyd lyfr hynod o ddiddorol gan Gareth Williams, 'Life on the Heath.'
Helen, Beth sy'n braf yw gweld hen enwau yn cael eu hadfer. Fel engraifft, nid nepell o dy hen gartref, ar hen safle y ffatri fomiau mae stryd o dai wedi ei chodi o'r enw "Ffordd Ty Unos". Mae'n amlwg taw nid enw wedi ei greu yw hwnnw ond bod rhywun wedi chwilota am enw gwreiddiol a hanseyddol. Mae'n biti nad yw bilders yn gwneud hynny'n amlach!
Mae llwyth o enwau Cymraeg difyr ac hanesyddol gellid eu hadfer - Heol y Plwca Halog (Crwys Rd) lle crogwyd gwrthryfelwyr; Stryd y Fuwch Goch dwi'n meddwl oedd un enw Cymaeg ar Womanby St (lle mae Clwb Ifor) ac onid Ffordd y Cyrff Meirw oedd yr hen enw ar y llwybr lle mae Ffordd y Gadeirlan heddiw (gan fod rhaid cario'r cyrff i'w claddu yn y Gaderilan).
Ydi, mae llyfrau Peter Finch yn ddifyr iawn ac wedi eu hysgrifennu'n goeth a ffraeth.
Syniad da Pads am lyfr i gyd-fynd a'r Eisteddfod.
... lle mae OJT pan fydd rhywun ei angen? Ydi OJT yn darllen dy flog Vaughan?!