Rwy'n hoffi Colin hefyd
Mwy na thebyg fe fyddwch wedi darllen blogbost diflewyn ar dafod Leighton Andrews ynghylch Cymdeithas yr Iaith erbyn hyn. Os na ydych chi mae'r cyfan ar gael yn ond mae hanfod ei ddadl ar ddiwedd yr erthygl.
"Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y Gymdeithas wedi datblygu'n un o'r sefydliadau hynny y rhybuddiais amdanynt yn Strategaeth yr Iaith Gymraeg, nad ydynt eto wedi ymgyfarwyddo â datganoli. Fel S4C cyn penodiad Ian Jones, fel CBAC, fel Prifysgol Cymru, fel y 22 awdurdod addysg lleol ac fel yr Eisteddfod.
Os yw'r Gymdeithas am fod yn rhan o'r sgwrs fawr ar ddyfodol yr iaith, yna mae pob croeso iddynt. Ond allan nhw ddim eistedd o amgylch y bwrdd trafod a cheisio atal eraill rhag gwneud y gwaith y cawsant eu hethol i'w wneud ar yr un pryd.
Mae'r Gymdeithas wedi troi'n hanner cant bellach, ac mae'n bryd iddi dyfu i fyny."
Nawr mae'n anodd anghytuno a honiad y Gweinidog bod meddiannu ei gar swyddogol pan oedd e eisoes wedi cytuno i gwrdd â'r protestwyr i drafod eu pryderon yn beth rhyfedd i wneud. Beth oedd y protestwyr yn ceisio cyflawni? Mae'n anodd gwybod.
Ond i fi nid ymddygiad y Gymdeithas sy'n ddiddorol yn fan hyn ond ymateb y Gweinidog. Yn sicr mae Leighton yn wleidydd sy'n hoff o siarad plaen. Dyw e ddim yn ofni pechu pobol na herio eu rhagdybiaethau. Yn eironig ddigon yr unig wleidydd cyfoes sy'n dod yn agos ato o safbwynt ei barodrwydd i dynnu nyth cacwn i'w ben yw ei elyn pennaf Michael Gove, Ysgrifennydd Addysg Lloegr.
Fel mae Leighton yn awgrymu yn ei bost mae 'na dipyn o hanes rhyngddo fe a fi. Ni'n nabod ein gilydd ers degawdau ac rwy'n meddwl yn ei ddeall yn gymharol dda. Un peth fi'n sicr yn ei gylch yw bod bron popeth y mae Leighton yn gwneud yn cael ei wneud at bwrpas. Nid tynnu blew o drwyn er mwyn gwneud hynny mae'r Gweinidog Addysg.
Sylwch nad yng ngwres y foment y cyhoeddodd Leighton ei sylwadau ond peth amser ar ôl y digwyddiad y mae'n cwyno yn ei gylch. Mae'r lled-fygythiad a'r gwahoddiad wedi eu geirio'n ofalus.
Ac o dderbyn telerau'r Gweinidog beth all y Gymdeithas ddisgwyl? Gwn hyn am Leighton hefyd. Mae'n hael i'r rheiny sy'n derbyn ei gyngor. Y bore yma cyhoeddwyd y gorchymyn fydd yn arwain at uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd uniad yr oedd y Leighton yn deisyfu ei weld ac ynghyd a'r gorchymyn cyhoeddiad arall - £24.8 miliwn o gyllid ychwanegol i'r sefydliad newydd.
Fel dywedais i mae Leighton yn hael i'w gyfeillion ac o leiaf mae'n hoffi Colin!
SylwadauAnfon sylw
Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â Leighton Andrews fis Mai, ac yn croesawi cyfleoedd i drafod polisïau. Er iddo ddod i Gynhadledd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn ddiweddar, nid cyfle ar gyfer trafodaeth agored oedd hynny, ond cyfle i Leighton Andrews gyhoeddi sefydlu rhagor o bwyllgorau a gweithgorau, er mwyn cael ei weld yn gwneud rhywbeth, yn hytrach na bod newidiadau polisi pendant. Yr un peth a welwyd yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2001 - sefydlu pwyllgorau a gweithgorau a dim byd yn dod ohonynt.
Diddorol oedd darllen ei sylwadau am Gymdeithas yr Iaith, ond nid wy’n cytuno bod y Gymdeithas wedi methu ag ymateb i ddatganoli. Rydym yn manteisio’n gyson ar y cyfleoedd mae’r drefn ddatganoledig yn ei chynnig ar gyfer lobïo a dylanwadu ar bolisïau. Mae’r ffaith bod Leighton Andrews mor hoff o’n swyddog cyfathrebu a lobïo, Colin Nosworthy, yn brawf o hyn!
Ond o ystyried maint yr her mae’r iaith yn ei hwynebu, a mor ddiffygol yw’r ymateb llywodraethol, credwn fod gweithredu uniongyrchol di-drais mor angenrheidiol a pherthnasol ag erioed. Nid mater o geisio ‘atal eraill rhag wneud eu gwaith’ yw hynny, ond mater o fynnu bod gwleidyddion yn gwneud eu gwaith.
Dyna pam cynhaliwyd piced tu allan i’r gynhadledd wythnos ddiwethaf, ac eisteddodd 3 o aelodau’r Gymdeithas yng nghar Leighton Andrews er mwyn gofyn am gyfarfod ar frys. Unwaith i ni ddeall ei fod wedi cytuno i hyn fe ddaeth y biced i ben. Ni dderbyniwyd ei ebost yn cytuno i gyfarfod tan ar ôl y gynhadledd, ac rydym yn croesawu’n fawr y cyfle i gwrdd ag ef i drafod y materion pwysig yma.
Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith