³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Chwilio am Ffwddog

Vaughan Roderick | 10:16, Dydd Gwener, 8 Mawrth 2013


Es i am dro rai blynyddoedd yn ôl i chwilio am le o'r enw Ffwddog neu Fwthog neu Foothog. Beth bynnag yw'r sillafiad cywir methais ddod o hyd iddi. Mae hi wedi diflannu naill ai o dan ddŵr cronfa Grwyne Fawr neu goed pinwydd tywyll y Comisiwn Coedwigaeth. Dim ond dau air sy'n addas i'w beddfaen - "Poetic Justice"!

Ynys fach o Loegr wedi ei hamgylchynu gan Gymru yng nghanol y Mynyddoedd Duon oedd Ffwddog. Fe'i dychwelwyd i Gymru gan y "Counties (Detached Parts) Act 1844". Yna diflannodd o hanes. Fel arfer, Cymru gafodd yr ochor waethaf i'r fargen. Fe gollodd Sir Fynwy ei hynys hithau yn Swydd Henfordd - Llangystennin Garth Brenni (Welsh Bicknor) - plwyf llawer mwy sylweddol a ffyniannus.

Rwy'n crybwyll deddf 1844 oherwydd mai honna oedd y newid cyntaf i gyfundrefn llywodraeth leol Cymru ers y deddfau uno. Daeth newid llawer mwy sylfaenol yn 1888 pan gafodd y cynghorau sirol a bwrdeistrefol eu creu. Fe barodd y rheiny tan 1973. Newidiwyd y cyfan eto yn 1996 gan roi i ni'r drefn bresennol o 22 cyngor - trefn sydd, mae'n ymddangos, yn tynnu at ei therfyn.

Tan yn ddiweddar roedd 'na gonsensws yn y Cynulliad ynghylch cyfundrefn llywodraeth leol Cymru. Yn y bôn y consensws hwnnw oedd "mae'n llanast ond dydyn ni ddim am ei newid hi".

Dyw'r agwedd yna ddim mor hurt ag y mae'n ymddangos. Mae adrefnu llywodraeth leol yn broses gymhleth a chostus ac mae'n gallu esgor ar bob math o deimladau cryfion lleol. Ymgyrch rymus leol wnaeth arwain at greu cyngor Merthyr Tudful - cyngor nad yw hyd yn oed cynnwys etholaeth seneddol gyfan.

Ateb y Llywodraeth oedd ceisio cymell neu orfodi cydweithio trwy rannu swyddogion, sefydlu byrddau a chonsortia ac yn y blaen. Dyw hynny ddim wedi gweithio bob tro. Nid pob Cyngor sy'n dod ymlaen â'i gymdogion ac mae cydweithio o'i natur yn gallu glastwreiddio atebolrwydd.

Efallai oherwydd y problemau hynny neu efallai oherwydd yr hyn maen nhw'n gweld fel potsian diddiwedd y Llywodraeth mae'n ymddangos bod agwedd rhai o fawrion y cynghorau yn newid.

Bythefnos yn ôl galwodd cyn arweinydd y Gymdeithas Lywodraeth Leol John Davies am gyfundrefn newydd wedi ei seilio ar ffiniau'r byrddau iechyd. Gobeithio na fyddai hynny'n arwain at greu Sir Betsi Cadwaladr! Yna ddoe awgrymodd arweinydd Gwynedd taw dwy sir ddylai fod yn y gogledd.

Dyna i chi ddau o'r mawrion sy'n fodlon dweud eu dweud yn gyhoeddus ac yn ôl ffynonellau o fewn Llywodraeth Cymru mae sawl arweinydd Cyngor arall wedi gofyn am adrefnu llawn.

A fydd hynny'n digwydd? Yn hwyr neu'n hwyrach mae'n saff o wneud.

Wedi'r cyfan sut ar y ddaear mae cyfiawnhau sefyllfa lle mae gan Gymru mwy o gynghorwyr na'r Alban a mwy o gynghorau na Seland Newydd?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:46 ar 8 Mawrth 2013, ysgrifennodd Aled:

    Am gyd-ddigwyddiad: dim ond ddoe glywais i gyntaf am y "Counties (Detached Parts) Act 1844" yn llyfr Mike Parker, Map Addict. Er na'i diddymwyd gan y ddeddf arbennig honno, mae hanes Flintshire (Detached) a ddisgrifir ganddo yn ddiddorol iawn, ond dim byd i gymharu a Cromartyshire yn yr Alban!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.