Cwis!
Fe geisiais i lansio cwis bach dyddiol ddoe ond oherwydd y trafferthion technolegol aeth hi'n draed moch braidd gyda'r ateb yn ymddangos yn ogystal â'r cwestiwn.
Fe wnâi drio eto. Pwy all ateb hwn?
Beth sy'n nefolaidd ynghylch Jac Glan-y-gors, Kim Howells AS a "S Club 7" a beth sy'n eu cysylltu?
SylwadauAnfon sylw
Rachel Stevens ?
Doniol iawn Bedd G. -ond anghywir.
Pwy ydi Jac Glan-y-gors ? Y 'bwci' sy'n rhoi 'ods' am y betio ??
Mr Roderick, Gallai fod yn 'pain' a pwyntio allan fod 'blogs' Brian Taylor a Mark Devenport wedi symud i mannau gwahanoal.
Dw'i ddim yn siwr os cawn ni postio 'lincs' yma..ond mae nhw'n eithaf hawdd i ffeindio..
/blogs/thereporters/briantaylor/
/blogs/thereporters/markdevenport/
Mae nhw i gyd wedi bod ar raglen Top of the Pops heb law am Kim Howells a Jac Glan-gors?
Rhywbeth i wneud â se^r? Cyhoeddodd Jac Glan-y-Gors Seren tan Gwmwl, a'm hoff gan S Club 7 oedd Reach for the stars.
Ddim yn siwr lle ma Kim Howells yn ffitio i mewn - seren y Swyddfa Dramor efallai?
Da iawn Tomos! Seren yw enw merch Kim Howells (Ie...dw i'n gwybod). Cwestiwn arall yfory.
Dw i'n edrych 'mlaen i dy weld ar y 'Weakest Link' Mr Roderick...