Cwis
Ateb Ddoe; Y pedwar oedd Tomos Charles, Harold Wilson, Pixley ka Isaka Seme (sylfaenydd yr ANC) a Sian Lloyd. Cafodd Dewi tri yn gywir. Roedd Helen Smith yn gywir am y cysylltiad. Roedd y pedwar yn fyfyrwyr yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
Pwy sy'n gallu ateb hwn?
Beth sy'n cysylltu hoff ddywediad Jim Callaghan o'r Mabinogi, gwleidydd uchel ei gloch o Went a'r gŵr o Plonsk sy'n cael ei goffau yn enw prif faes awyr ei wlad?
SylwadauAnfon sylw
Bid Ben Bid Bont,David Ben Gurion yn hawdd............gweidydd uchel ei gloch o Went ? - Neil Kinnock...yn byw ym Mhontllanfraith ??....dodgy rwy'n gwybod.........
Does gen i ddim syniad beth yw'r ateb ond......
Mae cyd-weithiwr i mi newydd glywed y bydd Lembo a'i wedjen yn Aber 'fory ar gyfer cynhadledd y Lib Dims. Bydd hi'n arwyddo copiau o'i chryno ddisg yn y bandstand am 2.00. Rhaid bod nhw'n despret.
A fo ben bid bont, benjamin hall - sef big ben, a david ben-gurion.
Ben yw'r ateb.
'bid ben bont' oedd camddyfyniad Jim Callaghan
Ben-Gurion oedd yn o feibion Plonsk
Benjamin Hall oedd yn gyfrifol am y gloch: Big Ben.
A bod ben bid bont, Chopin a......Huw Lewis?
Dim clem am y cysylltiad!
"a FO ben bid bont" hyd yn oed!
Ai'r ateb yw "Ben"?
Hoff ddywediad Callaghan oedd "A fo BEN bid bont"
Mae Maes Awyr Tel Aviv yn Israel wedi ei enwi ar ol Ben-Guiron, Prif Weinidog cyntaf Israel
Y gwleidydd o Went yw Benjamin Hall III yr enwyd "Big Ben" ar ei ol.
Benjamin Hall wrth gwrs...minnau wedi cael fy nghodi yn stryd o enw Hall's road yn Nhrecelyn a chael yr ateb yn anghywir :)