³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dychwelyd i'r Bae

Vaughan Roderick | 13:19, Dydd Mawrth, 8 Mai 2007

Dyma ni felly. Ar ôl mis yn gweithio o bencadlys y ³ÉÈËÂÛ̳ yn Llandaf dyma ni yn ôl yn ein swyddfa yn y bae. Mae 'na awyrgylch "diwrnod cynta'r ysgol" yma heddiw gyda hen gyfeillion yn cyfarch eu gilydd ac yn llongyfarch y newydd-ddyfodiaid.

Ceisio dyfalu pa fath o lywodraeth fydd yn cael ei ffurfio mae pawb wrth gwrs ond mae'r sefyllfa yn aneglur a dweud y lleiaf. Mae Llafur wedi ei rhannu rhwng yr aelodau hynny (o'r cymoedd yn bennaf) sy'n ffarfrio clymblaid â'r Democrataid Rhyddfrydol a'r rhai (o goridor yr M4) sydd am weld cytundeb â Phlaid Cymru.

Mae'n ymddangos fod y Blaid honno yn ddigon parod i aros i weld beth sydd gan Lafur i gynnig. Yn sicr dy' nhw ddim yn ffraeo ynglyn â'r ffordd ymlaen fel y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae wedi taro ei ergyd diweddaraf gan ddweud hyn;

" No matter how vehemently we denied it, no matter how much we insisted that policy and principle took priority, people still believed that our prime concern was to get our backsides into ministerial limousines. This was especially so in respect of our group leader."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwrdd ar hyn o bryd i drafod swyddi'r llywydd a'r is-lywydd ond mae'n ymddangos bod gobeithion Jenny Randerson o esgyn i'r gadair fawr yn brysur ymbellhau. Ar Dafydd Elis Thomas a Gwenda Thomas y mae'r arian clyfar.

1800: Ac mae'n debyg bod yr arian clyfar yn anghywir- DET a Rosemary Butler yw'r dewis tebygol ar ôl i Gwenda farnu nad yw ei chlyw yn ddigon da i wneud y gwaith.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.