³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Enwogion anghofiedig- Llwynog o'r Graig

Vaughan Roderick | 13:19, Dydd Sadwrn, 26 Mai 2007

Pan oeddwn i yn yr ysgol fach roedd 'na wobrau'n cael eu rhoi i "ddisgyblion y flwyddyn". Yr un oedd y wobr bob tro- copi o lyfr o'r enw "Enwogion Cymru". Des i erioed yn agos at ennill un. Roeddwn i'n grwt llawer rhu ddrwg i hynny.

Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod wedi colli mas chwaith. Cefais gip ar "Enwogion Cymru" unwaith ac roedd bron pawb oedd yn cael ei bortreadu yn y llyfr naill ai yn weinidog, yn fardd, neu yn amlach na pheidio'r ddau. Roedd yn well gen i anturiaethau ymerodrol yr "Arthur Mee Book of Heroes".

Wrth feddwl am ffyrdd i geisio cadw'r blog yn fywiog wrth i wleidyddiaeth dawelu penderfynais y byddai'r hanner tymor hwn yn gyfle i atgyfodi rhai o'n "henwogion anghofiedig". Fe wnâi gychwyn gyda rhyw un y gellid ei ystyried yn fath ar dad bedydd i'r math o sgwennu gwleidyddol sydd i'w canfod ar flogs gwleidyddol Cymru.

"Llwynog o'r Graig" oedd y dyn hwnnw. Fel sawl blogiwr heddiw roedd y Llwynog yn sgwennu dan ffugenw a hynny am resymau da iawn. Roedd ganddo golofn wythnosol ym mhapur Cwm Cynon "Tarian y Gweithiwr" o 1876 ymlaen ac fe'i defnyddiodd i ymosod yn chwyrn ar y ffordd yr oedd glowyr y cwm yn cael eu trin yn enwedig gan eu goruchwylwyr- y "gaffers". Dyma enghraifft o'i waith.

"Set ddrud i'w cadw yw'r gaffers; y mae yn rhatach pesgi cant o foch nac un gaffer. Ond er cymaint yw'r gost, y mae rhai ohonynt yn pesgi yn dda. Byddaf yn gweled rhai ohonynt yn pasio'r graig yma ac y maent mor grwn a Devonshire dymplings"

Fe gyflogodd rhai o'r gaffers gwmni o gyfreithwyr i geisio darganfod pwy oedd y Llwynog ac i ddwyn achos enllib yn ei erbyn. Roedd yntau yn ddiedifar.

"Pe bai'r gaffers yma yn gorfod lladd gymaint o'r corff am eu harian ag y mae y gweithwyr yn gorfod gwneud, ni fyddent mor barod i'w gwario rhwng cyfreithwyr"

Cynigiodd perchnogion y gweithfeydd wobr o £400 (gwerth £200,000 heddiw) i unrhyw un oedd yn fodlon datgelu pwy oedd yr awdur. Cyflogwyd ditectifs i wylio pawb oedd yn postio llythyrau i'r "Darian".

Roedd y "Llwynog" wedi dod a sgandal cyflwr bywyd yn y cymoedd i lygaid ym mhell du hwnt i gylch darllenwyr y Darian wrth i'w honiadau gael eu hail-gyhoeddi a'u hail adrodd. Yn y diwedd fe wnaeth ei wrthwynebwyr ddarganfod pwy oedd y "Llwynog" ac ar ôl i'w fywyd cael ei fygwth rhoddodd y gorau i'w golofn. Fe ddywedodd un glöwr hyn amdano.

"Credwyf mai'r Llwynog yw prif hero yr oes hon...am ei fod yn dod allan i ddadorchuddio twyll a gormes y gaffers yn yr amser caled hwn, pan y mae y glowyr cymaint o dan draed- pan mae y trechaf yn treisio, a'r wanaf yn gwaeddu ond heb neb ond y llwynog i wrando ar ei gwyn"

Glowr cyffredin o Abercwmboi o'r enw Thomas Davies oedd y Llwynog. Roedd yn dad i S.O Davies y sosialydd o genedlaetholwyr a gynrychiolodd Merthyr yn San Steffan am ddegawdau.

Des i ar draws hanes "Llwynog y Graig" yn llyfr ardderchog Robert Griffiths "S.O Davies A Socialist Faith" sydd, yn anffodus allan o brint. Dw i wedi dwyn y dyfyniadau o'r llyfr hefyd ond gan fod Robert bellach yn arweinydd y Blaid Gomiwnyddol dw i'n siŵr y byddai'n eu hystyried yn eiddo i bawb!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:04 ar 26 Mai 2007, ysgrifennodd llwynog arall:

    Difyr iawn... wyt ti'n siwr dy fod ti yn y job iawn?

    Mae wir angen mwy o Lwynogiaid fel hyn - i godi crachen a chodi twrw. Mae'r blogiau yn un ffordd o wneud hyn ac, ,wrth gwrs, mae'n rhaid bod yn ddi-enw weithiau er mwyn medru cadw swyddi ac ati.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.