Noson y cownt
Ar ôl treulio’r bore yng Nghasnewydd (dinas ddi-boster o'r hyn a welais i) dw i newydd fod yn cael cipolwg ar y stiwdio lle byddwn yn darlledu Nos Iau.
Dewi Llwyd fydd yn y gadair, fel arfer, gyda Richard Wyn Jones a finnau gwneud y gwaith dadansoddol. Rhuanedd Richards fydd yn holi'r gwleidyddion yn y stiwdio. Ein panelwyr y tro yma yw Eluned Morgan, Dafydd Iwan, Guto Bebb ac Aled Roberts. Fe fydd Rhun ap Iorwerth yn y stidwio VR (virual reality nid Vaughan Roderick!)
Yn ogystal â'r darllediadau arferol o'r canolfannau cyfri fe fyddwn hefyd yn darlledu'n fyw o'r senedd, lle mae disgwyl i nifer sylweddol o bobol ymgasglu i wylio'r canlyniadau. Am y tro cyntaf fe fyddwn yn blogio tra'n darlledu ac rydym wedi gwahodd rhai o flogwyr annibynnol amlycaf Cymru i ymuno â ni. Y syniad yw eu bod yn gallu rhoi eu "sbin" unigol eu hunain ar y wybodaeth wrth iddi ein cyrraedd.
SylwadauAnfon sylw
Canlyniad cyntaf am 1.00yb - y rhaglen yn dachreau am 10.30 beth yn y byd i chi mynd i wneud a dewud sydd ddim eisioes wedi ei ddweud am y ddwy awr a hanner cyntaf?
Vaughan,
Diolch am dy flog...fyddwch chi hefyd yn talu sylw i'r etholiadau yn yr Alban ac yn Lloegr o bryd i'w gilydd (os bydd cyfle)yn ystod rhaglen nos Iau?
Gwilym, Fe fydd Elis Roberts yn yr Alban ar ein rhan ac fe fyddwn yn cyfeirio at ganlyniadau Lloegr hefyd, er bod nifer o'r cynghorau yno yn cyfri yn ystod y dydd, ddydd gwener.