O'r ffrynt lein
Mae pethau diddorol yn digwydd yn rhengoedd y Democratiaid Rhyddfrydol- nid yn aml mae hynny'n digwydd! Yn ol Cheryl Green arweinydd Cyngor Pen-y-bont mae pedwar arweinydd cyngor y Blaid yn unfryd NA ddylai'r Blaid gyrraedd unrhyw gytundeb a Llafur. Mae Peter Black wedi lled awgrymu hynny hefyd gan awgrymu hefyd bod hi'n bryd i'r blaid ystyried ei harweinyddiaeth. Dwy hefyd yn synhwyro hefyd nad oes 'na unrhyw frwdfrydedd o gwbwl yn y rhengoedd Llafur dros gytundeb a phlaid y canol.
Dwy'n weddol sicr erbyn hyn y byddai Mike a Rhodri yn ei chael hi'n anodd i awn i werthu’r syniad o glymblaid rhwng y ddwy blaid i'w cefnogwyr. Dwy'n dechrau synhwyro mai Plaid Cymru sy'n allweddol ac mai Llafur/Plaid neu'r "enfys" sy'n debygol. Wedi'r cyfan fel y dwedais i ac felmae Llafur wedi bod yn ystyried cytundeb a Phlaid Cymru ers tro byd.
SylwadauAnfon sylw
Dylai'r Lib Dems, fel pob plaid arall, meddwl yn graff iawn cyn gwneud unrhyw ddel. Mae'r mis nesa yn argoeli'n mwy diddorol na'r etholiad ei hun.
O gofio hefyd bod y Dem Rh wedi dod yn agos at ddisodli Llafur mewn mannau fel Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd- rheini fydd eu targedau newydd nhw yn 2011. Fyddai ymuno a Llafur mewn clymblaid yn dinistrio'u gobeithion nhw o allu gwneud hynny'n effeithiol.
Mae llywodraeth leiafrifol hefyd yn bosibilrwydd cryf.
Fel un sy'n bell o'i filltir sgwar r'wy ond yn gobeithio wnaiff y gwleidyddion yn y Senedd ddewis yr "enfys".
Dyma gyfle i'r senedd dorri cwys hollol radical. Bydde modd cael polisiau gwir newydd a diddorol heb ofni fod un tuedd gwleidyddol yn cario'r dydd - ond, y cwestiwn yw hyn - ydym ni Ofn Mentro? - ein clefyd cenedlaethol ....
Beth amdani? Beth sydd gennoch chi golli, ond y Blaid Lafur? A beth ddiawl mae nhw wedi gneud drosoch chi?
Mae Cymru ar waelod y Gyngrair economaidd ac yn colli tir yn erbyn gweddill Prydain (wel yn ol y Swyddfa Ystadegol Cenedlaethol - wede nhw gelwydd?) Dyna etifeddiaeth rhyw ganrif o addoli'r Blaid Lafur ...
Dewch i ni gael llywodraeth efo syniadau newydd i adfer ein economi, a gyda hynny, ein Cymreictod. Mae gormod o Gymry Cymraeg wedi'u hallforio - dyna ein diwydiant mwyaf llewyrchus ers y yr ail ryfel byd - addysgu'n plant heb greu economi sy'n adlewyrchu eu galluoedd.
Mae'r gwrthbleidiau yn debygol o adael i lywodraeth Lafur leiafrifol dorri bedd iddi hi ei hun. Dyna fyswn i yn ei wneud yn eu lle nhw beth bynnag!
Mae marwolaeth y Blaid Lafur yng Nghymru yn mynd i fod yn araf a phoenus.